Bwrdd iechyd y gogledd i barhau dan fesurau arbennig

  • Cyhoeddwyd
betsi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod dan fesurau arbennig ers 2015

Bydd y bwrdd iechyd sy'n darparu gwasanaeth i gleifion yn y gogledd yn parhau dan fesurau arbennig am y tro.

Yn dilyn adolygiad o waith y byrddau iechyd yng Nghymru, daeth swyddogion i'r casgliad na fyddai statws Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn newid.

Cafodd y bwrdd ei osod mewn mesurau arbennig ym Mehefin 2015, wedi i adroddiad ddarganfod fod "camdriniaeth sefydliadol" wedi digwydd yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, oedd wedi cau yn 2013.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Roedd pryderon o hyd am berfformiad a datrysiadau strategol a allai ofyn am gymorth allanol penodol."

Ystyried eto cyn diwedd y flwyddyn

Daw'r penderfyniad wedi adolygiad gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith sydd yn cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru:

  • Trefniadau arferol

  • Monitro uwch

  • Ymyrraeth wedi'i thargedu

  • Mesurau arbennig

Dywedodd Mr Gething bod pryderon penodol am wasanaethau iechyd meddwl, a bod y "grŵp am gael sicrwydd pellach" gan y bwrdd iechyd.

"Teimlai'r grŵp ei bod yn bwysig i'r bwrdd iechyd hybu'r gwaith da yr oedd yn ei wneud a chanolbwyntio ar ei gamau gweithredu ei hun, yn hytrach na meddwl am y label statws.

"Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw argymhelliad ar gyfer newid i'r statws uwchgyfeirio. Er mwyn caniatáu i'r cyfle am gynnydd pellach gael ei ystyried, cynigiodd y grŵp gael cyfarfod teirochrog yn benodol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn diwedd y flwyddyn."

Cwm Taf Morgannwg

Yn ogystal â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fe fydd agwedd o wasanaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg hefyd yn parhau dan fesurau arbennig - yn benodol y "mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ac ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu".

Cafodd gwasanaethau mamolaeth mewn ysbytai ym Merthyr Tudful a Llantrisant eu rhoi o dan fesurau arbennig y llynedd.

Dywedodd adroddiad diweddar fod y gwasanaethau yno yn "ymdopi'n dda" a "bod tystiolaeth o gynnydd graddol, gyda 12 yn rhagor o argymhellion y Colegau Brenhinol wedi'u hawdurdodi yn ystod y cyfnod hwn".

Dywedodd Mr Gething ddydd Mercher bod y Panel Trosolwg ar Famolaeth "wedi cydnabod cynnydd o ran gwasanaethau mamolaeth ers yr adolygiad diwethaf".

"Serch hynny, mae'n dal yn bwysig i'r bwrdd iechyd barhau i feithrin ymddiriedaeth a hyder y boblogaeth leol, yn ogystal ag â rhanddeiliaid. Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw argymhelliad ar gyfer newid y statws uwchgyfeirio."

Barnodd y llywodraeth fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda "wedi gwneud cynnydd mewn meysydd perfformiad allweddol gyda'r sefydliad yn gwneud cynnydd yn erbyn ei dargedau diwedd blwyddyn ei hun".

"Er hynny, roedd pryder o hyd am y sefyllfa ariannol yn y sefydliad, ond cydnabuwyd bod y bwrdd iechyd wedi ymateb yn gadarnhaol i adolygiad KPMG.

"Yn wyneb y gwelliannau mewn gwasanaeth a chan nodi bod monitro wedi cael ei leihau yn ymarferol, cytunwyd y dylid is-gyfeirio'r sefydliad i 'monitro uwch'."

'Rhaid i'r bwrdd fynd'

Cafodd Bwrdd Betsi Cadwaladr ei ffurfio yn 2009 wedi i hen fyrddau'r gogledd uno.

Wrth ymateb i'r newyddion fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i barhau mewn mesurau arbennig, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth AS:

"Ar ôl mwy na phum mlynedd mewn mesurau arbennig, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i aros mewn mesurau arbennig. Diolch i'r holl staff am wneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd.

"Mae hyn yn cadarnhau fy nghred bod yn rhaid i'r bwrdd iechyd fynd. Mae angen cychwyn newydd ar gyfer staff a chleifion ledled gogledd Cymru."