Ymestyn cyfyngiadau Covid-19 Sir Caerffili

  • Cyhoeddwyd
CaerffiliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 100 o achosion newydd wedi bod yng Nghaerffili dros yr wythnos ddiwethaf

Bydd trigolion Caerffili yn wynebu cyfyngiadau coronafeirws ychwanegol am o leiaf wythnos arall.

Dyma'r ardal gyntaf yng Nghymru i gael eu rhoi dan gyfyngiadau lleol, a dywedodd Cyngor Caerffili y bydd y rheolai'n parhau wedi cynnydd yn nifer yr achosion yn ddiweddar.

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos 60.2 o achosion am bob 100,000 o'r boblogaeth dros y saith diwrnod diwethaf.

Daeth cyfyngiadau'r sir i rym ar 8 Medi, ac maen nhw'n golygu na chaiff unrhyw un adael neu fynd i mewn i'r sir heb "esgus rhesymol".

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerffili, Philippa Marsden, a'r prif weithredwr Christina Harrhy mewn llythyr ar y trigolion: "Yr wythnos ddiwethaf roedden ni'n dawel hyderus ein bod yn gweld golau ym mhen draw'r twnnel, ond mae'r wythnos yma wedi bod yn dra gwahanol.

"Rydym wedi gweld cynnydd mewn achosion lleol ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys nifer yn gysylltiedig gyda chlybiau preifat."

'Gwerthfawrogi'r her'

Mae mwy wedi gorfod mynd i'r ysbyty o fewn y sir hefyd. Cafwyd 109 o achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 5 Hydref, gyda 5.2% o'r profion yn bositif.

"O ystyried y sefyllfa bresennol, nid oes gennym hyder ar hyn o bryd bod y feirws o dan reolaeth," ychwanegodd yr arweinwyr.

Roedd pryder hefyd fod problemau gyda phellter cymdeithasol yn y sir.

Aeth yr arweinwyr ymlaen i ddweud: "Mae ein cydweithwyr yn Heddlu Gwent wedi gweld cynnydd yn nifer y cwynion am bobl yn ymgasglu o fewn aelwydydd.

"Rydym yn gwerthfawrogi'n llawn pa mor heriol yw hyn i chi. Mae nifer yn awyddus iawn i weld aelodau o'u teuluoedd a chyfeillion. Mae busnesau'n diodde' hefyd, ond rydym yn gofyn i chi ddyfalbarhau.

"Gallwn ond lwyddo os fydd pob un ohonom yn parhau i wneud eu rhan. Does yr un ohonom am fod yn y sefyllfa yma dros y Nadolig, felly gofynnwn i chi feddwl am beth yr ydych yn ei wneud a sut y byddwch yn ei wneud."