Stelciwr sydd ag 'obsesiwn afiach' â deintydd yn y llys eto
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd ei garcharu am stelcian ei gyn-ddeintydd dros gyfnod o bedair blynedd wedi ymddangos yn y llys ar ôl cael ei arestio tu allan i'w ddeintyddfa.
Ym mis Tachwedd 2019 cafodd Thomas Baddeley ei arestio o fewn milltir i gartref Dr Ian Hutchinson ger Cas-gwent.
Roedd yn gwisgo balaclafa ac roedd ganddo'r hyn ddisgrifiodd yr erlynwyr fel "pecyn llofruddio", a oedd yn cynnwys cyllell fawr, bwa croes gyda bollt, masg du a morthwyl.
Ond nawr, deufis ar ôl iddo gael ei ryddhau, mae Baddeley wedi pledio'n euog i dorri amodau ei orchymyn atal (restraining order).
Clywodd Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener iddo gael ei arestio tu allan i weithle Dr Hutchinson yr wythnos hon.
Beth ydy cefndir yr achos?
Cafodd Baddeley, 42 oed o Fryste, ei drin gan Dr Hutchinson yn ei hen bractis deintyddol ym Mryste rhwng 2012 a 2016.
Cafodd dynnu rhai o'i ddannedd ac fe gafodd brês ei osod. Ond roedd yn anhapus, gan honni fod y driniaeth yn ei wenwyno.
Heb yn wybod i Dr Hutchinson, roedd Baddeley wedi'i ddilyn i'w bractis yng Nghas-gwent, i gynadleddau deintyddol a chyrsiau ledled y DU.
Fe brynodd tua 30 o geir gwahanol mewn ymgais i osgoi cael ei ganfod wrth gynnal "gwyliadwriaeth systematig" ar ei ddioddefwr.
Ym mis Awst, cafodd Baddeley ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i gyfanswm o 16 mis o garchar ar ôl pledio'n euog i stelcian heb godi ofn, braw na gofid, a dwy drosedd ychwanegol o feddu ar arfau.
Cafodd orchymyn gan y llys yn ei atal rhag mynd yn agos at Dr Hutchinson, ac i gadw draw o rannau o Sir Fynwy.
Ond fe'i rhyddhawyd o'r carchar ar drwydded ar ôl ei ddedfrydu oherwydd amser a dreuliwyd dan glo.
Beth ddigwyddodd y tro yma?
Ar 7 Hydref, cafodd Baddeley ei arestio unwaith eto a'i gadw yn y ddalfa.
Dywedodd David Cook, ar ran yr erlyniad, wrth ynadon Casnewydd fod heddwas wedi gweld Baddeley yng nghyffiniau meddygfa Dr Hutchinson yng Nghas-gwent.
Nododd y swyddog, a oedd yn ymwybodol o'r gorchymyn atal, fod Baddeley yn reidio beic a'i fod wedi ymdrechu i guddio ei hun.
Cadwynodd Baddeley y beic i lamp ac roedd yn cerdded "i gyfeiriad cyffredinol" y feddygfa pan gafodd ei arestio.
Dywedodd Steve Jones, ar ran yr amddiffyn, na fu unrhyw gyswllt â Dr Hutchinson ac na welodd Dr Hutchinson ef yno.
'Obsesiwn afiach'
Dywedodd y barnwr Martin Brown fod gweithredoedd Baddeley mor fuan ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar yn dangos yn glir bod ei obsesiwn gyda Dr Hutchinson yn parhau.
Roedd yr achos wedi cael effaith enfawr ar fywyd Dr Hutchinson, meddai, ac roedd hawl ganddo i deimlo'n "hynod bryderus" ym mhresenoldeb Baddeley ger y feddygfa.
Wrth anfon Baddeley i Lys y Goron am ei ddedfrydu, dywedodd Mr Brown wrtho: "Mae hwn yn obsesiwn afiach iawn oherwydd ni chyflwynwyd esboniad arall i'r llys.
"Yr unig reswm yr oeddech chi yn ardal Cas-gwent oedd i barhau â'ch obsesiwn."
Cafodd yr achos ei anfon i Lys y Goron Casnewydd. Bydd yn cael ei ddedfrydu yno ar 23 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020