Bangor dan gyfyngiadau Covid-19 lleol o nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym yn rhannau o ddinas Bangor am 18:00 nos Sadwrn.
Mae'r mesurau'n berthnasol i wyth o wardiau - Garth, Hirael, Menai, Deiniol, Marchog, Glyder, Hendre a Dewi.
Bydd y cam yn golygu na fydd modd teithio i nac o'r wardiau dan sylw heb esgus resymol, sy'n cynnwys teithiau gwaith ac addysg.
Bydd trigolion hefyd ond yn cael cyfarfod â phobl nad sy'n byw yn yr un aelwyd â nhw yn yr awyr agored.
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfrig Siencyn wrth raglen y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru fod yn penderfyniad wedi bod yn "anochel".
Dywedodd fod y cyngor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r cyfyngiadau lleol, ond roedd yn credu "y gellir fod wedi dod i benderfyniad yn llawer cynt yn yr wythnos"
Fe fydd y cyngor yn trafod y sefyllfa ar gyfer gweddill Gwynedd yn hwyrach dydd Sadwrn - ac fe ddwedodd Mr Siencyn er bod 'na arwyddon fod nifer yr achosion yn codi yn Arfon a Dwyfor nad oedd yn credu y bydda 'na gyfyngiadau pellach.
"Dwi ddim yn credu y bydd y sir gyfan rŵan, ond wrth gwrs ma' pethau'n gallu newid yn sydyn iawn gyda'r clwy' felltith yma, a gall hynny newid dros y dyddiau nesa.
"Fe fydd na gadw llygad ar nifer yr achosion bob dydd, a does dim addewid na fydd unrhyw ran o'r sir ddim yn cael eu cau."
'Trafodaethau yn parhau'
Daw ar ôl i'r awdurdodau yng Ngwynedd ofyn am gyfyngiadau ychwanegol yn yr ardal, yn sgil cynnydd mewn achosion.
Dywed Llywodraeth Cymru fod cyfraddau Bangor bellach o gwmpas 400 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.
"Y drafodaeth sy' wedi bod ydy a ddylen ni gael cyfyngiadau lleol iawn, neu a ddylen ni ehangu i Gwynedd yn ehangach,"meddai'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan.
"Mae'r trafodaethau hynny yn parhau, a felly bydd trafodaethau'n digwydd fory eto."
"Camau wedi'u targedu"
Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ei fod yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau yng Ngwynedd.
Ychwanegodd bod nifer o achosion y sir yn deillio o fyfyrwyr ym Mangor.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford nos Wener fod y "cynnydd mawr mewn achosion ym Mangor" yn "gysylltiedig i raddau helaeth â phobl sy'n cymdeithasu".
"Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol, yr heddlu yng Ngogledd Cymru ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus i asesu'r angen am gyfyngiadau lleol. Rydym i gyd yn cytuno bod angen cymryd camau wedi'u targedu ym Mangor.
"Rydym eisiau trafod y sefyllfa ehangach yng Ngwynedd yn fanylach fory i benderfynu a fydd angen ymestyn y cyfyngiadau lleol yn ehangach ar draws y sir."
'Gweithredu rŵan i arafu'r cynnydd'
Dywedodd Mr Siencyn fod y Cyngor Sir a'u partneriaid" yn gyfan gwbl gefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau dros dro ym Mangor.
"Bydd gweithredu rŵan yn helpu i arafu'r cynnydd sydyn mewn achosion positif yn y ddinas, yn torri'r gadwyn drosglwyddo ac yn diogelu trigolion Bangor yn ogystal â'r gymuned ehangach yma yng Ngwynedd."
Dywedodd eu bod yn "llwyr werthfawrogi" effaith y cyhoeddiad ar drigolion a busnesau, ond "trwy gymryd y camau hyn rŵan, y gobaith yw y byddwn yn gallu osgoi mesurau llymach fyddai'n aflonyddu mwy ar fywydau pobl yn hwyrach ymlaen."
Ychwanegodd bod dim lle i drigolion mewn ardaloedd eraill o Wynedd "laesu dwylo" a bod angen i bawb ddilyn y rheolau cenedlaethol "i amddiffyn ein hunain, ein hanwyliaid a'r gymuned ehangach".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020