Awdurdodau Gwynedd yn gofyn am gyfyngiadau Covid-19 lleol

  • Cyhoeddwyd
Cyngor GwyneddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfradd achosion Gwynedd yn uwch na phum sir sydd eisoes dan glo

Mae'r tîm sy'n rheoli'r ymateb i coronafeirws yng Ngwynedd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru roi'r sir dan gyfyngiadau lleol yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion yno.

Er bod y cyngor wedi gwneud awgrym i'r llywodraeth y dylid rhoi'r sir dan gyfyngiadau lleol, penderfyniad Llywodraeth Cymru ydy hynny.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ddydd Mercher eu bod yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau o'r fath yng Ngwynedd.

Yn ddiweddarach nos Wener, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai dinas Bangor yn mynd dan gyfyngiadau ychwanegol ddydd Sadwrn.

Cyfradd uwch na siroedd dan glo

Mae cyfyngiadau lleol eisoes mewn grym ar gyfer 15 sir yng Nghymru, a thref Llanelli.

Cafodd 29 o achosion eu cadarnhau yn y sir yn ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener - mwy na'r un diwrnod arall ers dechrau'r pandemig.

Mae cyfradd yr achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl wedi cyrraedd 89.1 dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae hynny'n uwch na phum sir sydd eisoes â chyfyngiadau lleol mewn grym, sef Conwy (80.2), Caerffili (76.8), Torfaen (63.9), Bro Morgannwg (59.1) a Chasnewydd (48.5).

'Dilyn y rheolau yn y cyfamser'

Brynhawn Gwener dywedodd Tîm Rheoli Achos Gwynedd, sy'n cynnwys nifer o bartneriaid lleol fel y gwasanaethau iechyd, addysg, yr heddlu a'r cyngor, eu bod wedi gwneud awgrym i'r llywodraeth bod angen cyflwyno mesurau llymach yno.

"Ar ôl ystyried yn ofalus, mae awgrym i gyflwyno Ardal Gwarchod Iechyd ar gyfer Gwynedd wedi'i wneud i Lywodraeth Cymru, fydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar y ffordd orau ymlaen," meddai cadeirydd y tîm, Dafydd Williams.

"Yn y cyfamser, byddwn yn annog holl drigolion Gwynedd i barhau i ddilyn y rheolau Covid-19 er mwyn cadw ein cymunedau yn ddiogel."