Covid: Dim rhagor o gyfyngiadau yng Ngwynedd am y tro

  • Cyhoeddwyd
BangorFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r awdurdodau yn y gogledd yn cadw llygad barcud ar ffigyrau Covid yn ardaloedd Arfon a Dwyfor yng Ngwynedd wrth ystyried a ddylid cymryd camau yno.

Ond dywedodd prif weinidog Cymru, Mark Drakeford na fydd cyfyngiadau yn dod i rym mewn rhanau arall o Wynedd ar wahan i Fangor am y tro.

Fe ddaeth cyfyngiadau llymach i rym yn rhannau o ddinas Bangor am 18:00 dydd Sadwrn.

Mae'r mesurau'n berthnasol i wyth o wardiau - Garth, Hirael, Menai, Deiniol, Marchog, Glyder, Hendre a Dewi., dolen allanol

Ar ôl cyfarfodydd pellach gyda gwahanol asiantaethau dydd Sadwrn dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd cynlluniau i gyflwyno rhagor o gyfyngiadau yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

Ond mae arweinydd Gwynedd wedi sôn am bryder am y ffigyrau yn Arfon a Dwyfor.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Dywedodd y cynghorydd Dyfrig Siencyn wrth raglen y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru fore Sadwrn fod y penderfyniad ynglŷn â Bangor wedi bod yn "anochel."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dyfrig Siencyn fod nifer yr achosion yn Arfon a Dwyfor wedi cynyddu

"Roedd yna ffigyrau sylweddol o achosion oedd ym Mangor wedi mynd yn agos i os nad heibio 400 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth," meddai arweinydd Gwynedd.

Ychwanegodd fod yna gryn drafodaeth wedi bod ynglŷn ag ardal ehangach Gwynedd.

"Mae ffigyrau achosion y tu allan i Fangor llawer iawn is - ond mae yna arwyddion bod nhw'n cynyddu erbyn hyn yn ardal Arfon a Dwyfor, mae ffigyrau Meirionydd ar hyn o bryd yn bur isel.

"Felly y drafodaeth oedd pa ardaloedd ehangach ddylid eu cynnwys mewn parth diogelwch iechyd - a bydd y cyfarfod yn digwydd pnawn 'ma yn dilyn mwy o wybodaeth ynglŷn â lle mae'r union achosion yma.

"Dwi ddim yn credu y bydd y sir gyfan rŵan, ond wrth gwrs ma' pethau'n gallu newid yn sydyn iawn gyda'r clwy' felltith yma, a gall hynny newid dros y dyddiau nesa.

"Fe fydd 'na gadw llygad ar nifer yr achosion bob dydd, a does dim addewid na fydd unrhyw ran o'r sir ddim yn cael eu cau."

Disgrifiad o’r llun,

Stryd Fawr Bangor ychydig cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym dydd Sadwrn

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd newydd sydd wedi ei osod ar gyrion dinas Bangor

Cyfyngiadau Bangor

O ran y cyfyngiadau sy'n dod i rym ym Mangor, mae'n golygu na fydd modd teithio i nac o'r wardiau dan sylw heb esgus resymol, sy'n cynnwys teithiau gwaith ac addysg.

Bydd trigolion hefyd ond yn cael cyfarfod â phobl nad sy'n byw yn yr un aelwyd â nhw yn yr awyr agored.

Dywedodd Mr Siencyn fod y cyngor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r cyfyngiadau lleol, ond roedd yn credu "y gellir fod wedi dod i benderfyniad yn llawer cynt yn yr wythnos"

'Trafodaethau yn parhau'

Dywed Llywodraeth Cymru fod cyfraddau Bangor bellach o gwmpas 400 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.

"Y drafodaeth sy' wedi bod ydy a ddylen ni gael cyfyngiadau lleol iawn, neu a ddylen ni ehangu i Gwynedd yn ehangach,"meddai'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan.

"Mae'r trafodaethau hynny yn parhau, a felly bydd trafodaethau'n digwydd fory eto."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy cyhoeddiad nos Wener ddim yn effeithio ar ward Pentir, sy'n cynnwys rhannau o Benrhosgarnedd ac Ysbyty Gwynedd,

"Camau wedi'u targedu"

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ei fod yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau yng Ngwynedd.

Ychwanegodd bod nifer o achosion y sir yn deillio o fyfyrwyr ym Mangor.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford nos Wener fod y "cynnydd mawr mewn achosion ym Mangor" yn "gysylltiedig i raddau helaeth â phobl sy'n cymdeithasu".

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol, yr heddlu yng Ngogledd Cymru ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus i asesu'r angen am gyfyngiadau lleol. Rydym i gyd yn cytuno bod angen cymryd camau wedi'u targedu ym Mangor.

"Rydym eisiau trafod y sefyllfa ehangach yng Ngwynedd yn fanylach fory i benderfynu a fydd angen ymestyn y cyfyngiadau lleol yn ehangach ar draws y sir."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed arweinydd Cyngor Gwynedd ei fod yn gwerthfawrogi'r effaith ar drigolion a busnesau Bangor

'Gweithredu rŵan i arafu'r cynnydd'

Dywedodd Mr Siencyn fod y Cyngor Sir a'u partneriaid" yn gyfan gwbl gefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau dros dro ym Mangor.

"Bydd gweithredu rŵan yn helpu i arafu'r cynnydd sydyn mewn achosion positif yn y ddinas, yn torri'r gadwyn drosglwyddo ac yn diogelu trigolion Bangor yn ogystal â'r gymuned ehangach yma yng Ngwynedd."

Dywedodd eu bod yn "llwyr werthfawrogi" effaith y cyhoeddiad ar drigolion a busnesau, ond "trwy gymryd y camau hyn rŵan, y gobaith yw y byddwn yn gallu osgoi mesurau llymach fyddai'n aflonyddu mwy ar fywydau pobl yn hwyrach ymlaen."

Ychwanegodd bod dim lle i drigolion mewn ardaloedd eraill o Wynedd "laesu dwylo" a bod angen i bawb ddilyn y rheolau cenedlaethol "i amddiffyn ein hunain, ein hanwyliaid a'r gymuned ehangach".