Gwariant ychwanegol i'r byd ffilm yn sgil Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mygydau ar yr actorion a phrofi cyson am Covid-19 yw realiti ffilmio cyfresi drama yng Nghymru bellach ac mae nifer o gwmnïau wedi gorfod gwario miliynau yn ychwanegol i gwrdd â gofynion cyfyngiadau Covid-19.
Y gyfres The War of the Worlds oedd y cyntaf i ailgychwyn yn y DU ar ôl dechrau'r cyfnod clo, a hynny mewn stiwdio yng Nghasnewydd.
Mae cyfresi eraill erbyn hyn wedi llwyddo i ddechrau ffilmio er gwaethaf y cyfyngiadau.
Dywedodd y cynhyrchydd Adam Knopf fod pawb yn cynnal "y safonau diogelwch eithaf".
Talu am fesurau diogelwch
Mae rhai cyfresi drama a ffilmiau wedi gorfod gwario miliynau o gyllid ychwanegol er mwyn sicrhau bod cast a chriwiau yn cael eu hamddiffyn rhag y feirws.
Mae oedi wrth lansio cynllun yswiriant llywodraeth y DU ar gyfer y diwydiant yn golygu bod y rhai sydd wedi llwyddo i ailddechrau ffilmio wedi gorfod dibynnu ar gyllid gan ddarlledwyr a dosbarthwyr er mwyn talu am fesurau iechyd a diogelwch ychwanegol a chostau annisgwyl cysylltiedig â'r pandemig.
Ar set yr ail gyfres o War of the Worlds mae'r newidiadau yn cynnwys mesur tymheredd pawb wrth iddyn nhw gyrraedd, profion Covid rheolaidd i'r cast a rhai o'r criw, mwy o bellter rhwng adrannau sy'n gweithio ar y set a mesurau i rannu seddi'r adran golur a gwisg.
Mae'r seibiant rhwng ffilmio wedi'i effeithio hefyd, gyda systemau unffordd a brechdanau mewn bocsys yn lle'r trelars bwyd traddodiadol.
Mae cynhyrchydd y gyfres yn dod o Gaerdydd, ac fe ddywedodd Adam Knopf fod pwysau mawr i ailddechrau ffilmio.
"Roedd gennym ni actorion oedd fod i saethu ar gynyrchiadau eraill mewn gwledydd eraill," meddai, "felly roeddwn i'n gwybod pe bai ni'n methu dechrau saethu ar y trydydd ar ddeg [o Orffennaf] efallai na fyddem hyd yn oed yn mynd i allu ffilmio eleni o gwbl.
"Felly, i ni, roedd hi'n allweddol saethu ar y trydydd ar ddeg, ac fe lwyddon ni i wneud hynny yn y pen draw."
I allu dechrau ffilmio roedd angen cronfa wrth gefn ar y darlledwyr oedd wedi comisiynu'r gyfres a rhaid oedd sicrhau bod y cynhyrchiad yn cael ei eithrio rhag rhai o gyfyngiadau Llywodraeth Cymru.
Cafodd aelodau cast allweddol a oedd yn teithio o dramor eu heithrio rhag rheolau cwarantîn, cyn belled â'u bod yn teithio o westy i'r set ffilmio yn unig.
Dywedodd Mr Knopf: "Fe wnaethon ni dreulio deuddeg wythnos yn rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod popeth yn digwydd yn llyfn, a bod yr holl fesurau diogelwch cywir yn bodoli.
"Ond ni oedd y cynhyrchiad mawr cyntaf yn y DU i ailddechrau. Roedd nifer yn edrych arnom ni, felly roedd rhaid i ni sicrhau fod popeth yn gadarn ac yn gywir, a bod pawb yn gweithio i'r safonau diogelwch uchaf.
"Fe wnaethon ni hynny, ac rydyn ni'n teimlo'n hyderus iawn ein bod ni wedi'i wneud yn dda. Rydyn ni'n dal i fynd ar ôl 13 wythnos, sy'n newyddion da!"
Cael canolfan brofi breifat
Mae Gerwyn Evans yn ddirprwy gyfarwyddwr Cymru Greadigol, sef cangen o Lywodraeth Cymru sy'n buddsoddi mewn cynyrchiadau teledu mawr ac yn cefnogi'r diwydiant.
Dywedodd: "Y peth cyntaf oedd cael arian i mewn i'r sector, dyna lle oedd y galw mwyaf. Yr ail beth oedd y canllawiau - roedd angen cael sgyrsiau gonest ac agored ynghylch yr heriau oedd yn wynebu'r cynyrchiadau ac roedd rheini yn amrywiol ledled Cymru."
Mae cynyrchiadau mawr sy'n saethu yng Nghymru wedi rhannu costau i greu canolfan brofi breifat ar gyfer Covid-19, gan sicrhau bod cast a chriw allweddol yn cael eu profi o leiaf bob wythnos.
Mae'r gyfres Netflix, Sex Education, sydd ar hyn o bryd yn saethu yn ne Cymru yn rhannu'r cyfleuster preifat gyda War of the Worlds a chynhyrchiad arall yn ne Cymru.
Dywedodd Adam Knopf: "Roedd yn allweddol i ni beidio ag ymyrryd ag unrhyw waith y GIG.
"Fe wnaethon ni ymuno â chynyrchiadau eraill yn yr ardal leol a sefydlu ein cyfleuster profi ein hunain, ac roedd hynny'n caniatáu i ni gynnal profion ein hunain yn gyflym iawn."
Mae'r cynhyrchiad hefyd yn gweithredu system olrhain cyswllt ei hun, os oes achosion ymhlith y criw neu eu ffrindiau a'u teulu.
Roedd disgwyl i ddrama drosedd newydd BBC Cymru, The Pact, ddechrau ffilmio'r diwrnod ar ôl i'r cyfnod clo ddechrau ym mis Mawrth.
Cafodd ei gohirio tan fis Medi, a bu'n rhaid i'r cwmni cynhyrchu Little Door drefnu cynnydd sylweddol mewn cyllid er mwyn galluogi'r saethu i fynd ymlaen.
Mae'r gyfres yn cynnwys yr actorion Cymraeg Eiry Thomas, Heledd Gwyn a Mark Lewis Jones ynghyd â Julie Hesmondhalgh ac un o sêr y gyfres Breaking Bad, Laura Fraser.
Dros yr wythnosau diwethaf maen nhw wedi bod yn ffilmio golygfeydd mewn plasty ym Mro Morgannwg.
Mae actorion wastad yn gwisgo mygydau ar set gan gynnwys yn ystod ymarferion. Dim ond pan fydd y camerâu yn dechrau recordio mae'r mygydau yn dod bant.
Gwisgo'r mwgwd tan y saethu
Dywedodd Eiry Thomas: "Mae'n wahanol iawn, fel allwch chi weld 'dan ni i gyd yn gwisgo'r masgiau yma. Ac ni'n cadw'r masgs ymlaen nes bod ni yn dechrau saethu.
"Felly hyd yn oed mewn ymarfer fyddwn ni yn gwisgo'r masg, ac unwaith mae'n nhw'n galw i ddweud ein bod ni yn mynd i wneud take ni'n cymryd y masgiau off, a dyna'r tro cynta ry'n ni'n gweld wynebau ein gilydd, sy bach yn od.
"Ond mewn ffordd mae'n cadw fe i gyd yn ffres, achos ti'n gwybod beth mae'r actorion yn gwneud gyda'u llygaid nhw ond ti ffili gweld beth mae nhw'n gwneud gyda gweddill eu hwynebau.
"So mae'n eithaf neis, pan ti'n gweld wyneb rhywun wedyn, ti yn ymateb yn y foment mwy. Felly mae rhywbeth positif yn dod mas o fe mewn ffordd, ond mae yn wahanol iawn."
Tra bod y set yn brysur gydag actorion a'r criw, mae meddyliau pawb yn troi yn gyson at y gymuned ehangach o weithwyr llawrydd sydd ddim mor ffodus i fod nôl yn gweithio.
'Eraill ddim mor lwcus'
Dywedodd Eiry Thomas: "Oes, mae ansicrwydd anferth. Dwi yn teimlo'n eithriadol o lwcus fy mod i mewn gwaith.
"Mae cymaint o bobl wedi cael eu bwrw yn ofnadwy gyda'r peth yma - cannoedd o bobl ddim yn gweithio, theatrau yn cau, neb yn cael gweithio yn y theatr, dawns, cerddoriaeth. Ni'n lwcus bod ni'n gallu mynd nôl i weithio. Mae'n saff i weithio fel hyn - mae fel unrhyw weithle arall lle chi'n cadw pellter o bobl ag ati."
Ychwanegodd Heledd Gwyn: "Fi'n credu beth sy'n eithaf neis yw achos bod pawb mor falch i fod nôl yn gweithio gyda'i gilydd eto, mae pawb yn teimlo'r un cyfrifoldeb dros ein gilydd.
"Ddim yn unig i gadw ein hunain a'n gilydd yn iach, ond hefyd i alluogi ni i gario ymlaen i ffilmio. Does neb eisiau i hwn stopio, a wedyn mae pawb yn cymryd gofal o fewn y gweithle a hefyd tu allan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2020
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020