Perygl i filoedd o swyddi diwydiannau creadigol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae perygl gwirioneddol y bydd sector creadigol Cymru'n colli miloedd o weithwyr llawrydd oherwydd diffyg cymorth ariannol i'w cynnal trwy'r argyfwng coronafeirws, yn ôl tystiolaeth arbenigwyr i un o bwyllgorau Senedd Cymru.
Clywodd ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i effaith y pandemig COVID-19 ar y diwydiannau creadigol fod gweithwyr llawrydd ddim yn cael ymgeisio am gymorth cynlluniau Llywodraeth y DU.
Mae adroddiad gan Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol yn mynd cyn belled ag awgrymu y gall hyd at 16,000 o swyddi gael eu colli yng Nghymru.
Mae'r pwyllgor wedi croesawu'r £59m ychwanegol gan Lywodraeth y DU i helpu sectorau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth Cymru ond mae'n rhybuddio "bydd yn cael ei wasgaru'n denau iawn".
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Helen Mary Jones fod y sector yn ffynnu cyn y pandemig, ond fod "amser yn brin os ydym am sefydlogi a chynnal ein diwydiannau creadigol".
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i "nodi fel mater o frys sut y bydd yn blaenoriaethu'r cyllid ychwanegol" fel nad yw sefydliadau'n "cael eu gorfodi i gau eu drysau am byth neu ddiswyddo aelodau staff gwerthfawr".
Yn ôl arolwg gan yr Elusen Ffilm a Theledu, doedd 93% o weithwyr llawrydd y diwydiant ddim yn gweithio oherwydd yr argyfwng a doedd 74% ddim yn disgwyl cael unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth y DU.
Dywed Pauline Burt o Ffilm Cymru fod dros 90% o'r diwydiant ffilm a theledu yn weithwyr llawrydd neu'n gwmnïau micro.
Trafferthion yswiriant
Mae'r pwyllgor yn awgrymu nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynnal trafodaethau i ddatrys trafferthion sicrhau yswiriant ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu.
Mae'r pandemig, medd y pwyllgor, wedi amlygu'r "anghydraddoldebau presennol rhwng... cynhyrchwyr rhyngwladol fel Netflix ac Amazon, sy'n gallu fforddio'r risg, a chynhyrchwyr domestig nad ydynt yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd".
Mae pryder y gall y sefyllfa "beryglu enw da Cymru yn rhyngwladol fel lleoliad ffilmio".
Mae'r pwyllgor eisiau i Lywodraeth Cymru gynnal trafodaethau gyda'r Trysorlys i hwyluso gwarantau ar gyfer darparwyr yswiriant.
Mae trafferthion yswiriant ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth fyw hefyd yn atal lleoliadau adloniant rhag ailagor, ar ben goblygiadau cadw pellter cymdeithasol, costau cyflogi staff ychwanegol a phrosesau glanhau arbennig.
Golyga'r cyfan fod ailagor yn costio mwy i'r busnesau nag aros ar gau. Dywed y pwyllgor fod angen i lywodraethau Cymru a'r DU ymyrryd i "ddatgloi'r marchnadoedd yswiriant er mwyn adfer hyder yn y sector".
Rhybuddiodd Ms Jones hefyd fod angen helpu darlledwyr cyhoeddus, sy'n wynebu heriau sylweddol er gwaethaf eu rôl ganolog yn ystod yr argyfwng Covid-19.
"Mae darlledwyr wedi darparu gwybodaeth hanfodol am iechyd y cyhoedd sy'n benodol i Gymru, cymorth addysg i blant, yn ogystal ag adloniant mawr ei angen," meddai.
"Mae arnom ddyled fawr i fodolaeth y darlledwyr hyn ac mae clywed am yr heriau ariannol sy'n eu hwynebu yn peri pryder.
"Heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth ariannol y mae arnynt eu hangen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020