Cynghrair y Cenhedloedd: Y Ffindir 0-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Kieffer MooreFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kieffer Moore wedi sgorio tair gwaith i Gymru mewn chwe gêm

Mae Cymru wedi sicrhau dechrau llwyddiannus i'w hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd gyda gôl hwyr Kieffer Moore yn sicrhau buddugoliaeth yn y Ffindir.

Bydd y rheolwr Ryan Giggs yn fodlon iawn gyda pherfformiad ei dîm ifanc yn wyneb absenoldeb nifer o chwaraewyr y tîm cyntaf oherwydd anafiadau.

Dechreuodd Cymru yn hynod addawol - er i Moore benio i'r rhwyd yn gynnar yn anffodus roedd hynny yn dilyn trosedd yn erbyn yr amddiffynwyr Daniel O'Shaughnessy.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Daniel James wnaeth greu y cyfle i Kieffer Moore

Bedwar munud yn ddiweddarach fe wnaeth croesiad gan Daniel James bron a chyrraedd Gareth Bale oedd latheni'n unig o'r gôl.

Bydd Giggs wedi ei blesio gan berfformiad yr asgellwr sydd wedi colli ei le yn nhîm cyntaf Manchester United.

Roedd James yn fygythiad cyson yn Helsinki, a'i bas o ar ôl rhediad lawr yr asgell chwith wnaeth roi'r cyfle i Moore ddeg munud o'r diwedd.

Er dechrau addawol Cymru, Y Ffindir wnaeth ddechrau gryfach wedi'r egwyl.

Cyfle i dalentau ifanc

Daeth eu cyfle gorau nhw yn gynnar yn yr ail hanner gyda Leo Vaisanen yn taro'r postyn o lathen yn unig.

Fe wnaeth Giggs ddewis rhoi cyfle i dalentau ifanc newydd, gyda Dylan Levitt Manchester United yn dechrau yng nghanol y cae.

Ac yn yr ail hanner daeth Neco Willams (Lerpwl) a Ben Cabango (Abertawe) i'r cae.

Y gêm yn Helsinki oedd un cyntaf Cymru ers y fuddugoliaeth dros Hwngari ym mis Tachwedd wnaeth sicrhau fod y tîm yn cyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 - sydd nawr wedi eu gohirio am flwyddyn.

Yn gêm arall Grŵp B4, cyfartal 1-1 oedd hi rhwng Bwlgaria a Gweriniaeth Iwerddon.

Ddydd Sul fe fydd Cymru yn croesawu Bwlgaria i Stadiwm Dinas Caerdydd.