'Cynnydd sylweddol i'r risg o dwyll yn sgil y pandemig'
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig coronafeirws wedi cynyddu'r risg o dwyll ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn "sylweddol", yn ôl adroddiad newydd.
Dywed adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol, dolen allanol, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, y bu'n rhaid i gyrff cyhoeddus brosesu taliadau cymorth Covid-19 "ar frys dan amgylchiadau anodd iawn".
Daeth y Fenter Twyll Genedlaethol o hyd i £8m o dwyll a gordaliadau rhwng 2018-2020, o'i gymharu â £5.4m yn ystod yr ymarfer blaenorol.
Roedd 98% o'r achosion yn ymwneud â disgownt y dreth gyngor, bathodynnau glas, budd-dal tai, pensiynau, rhestrau aros, cartrefi gofal preswyl a chynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor.
Mae'r Fenter yn cael ei chynnal bob dwy flynedd, gan baru data rhwng sefydliadau, systemau ac ar draws ffiniau gwledydd i helpu cyrff cyhoeddus i adnabod hawliadau a thrafodion a allai fod yn dwyllodrus neu'n gyfeiliornus.
Dywed yr adroddiad y gallai "rhai cyfranogwyr fod yn llawer mwy rhagweithiol" i atal twyll.
"Ychydig iawn o'u pariadau a adolygwyd gan rai awdurdodau lleol, ac o ganlyniad ni wnaethant ddigon o waith i fynd i'r afael â thwyll posibl," meddai'r adroddiad.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cynnwys paru data mewn perthynas â grantiau cymorth busnes Covid-19 a dalwyd gan awdurdodau lleol fel rhan o'r Fenter Twyll Genedlaethol yn 2020-2022 i helpu cynghorau i adnabod ceisiadau twyllodrus am gymorth.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Mae pandemig Covid-19 wedi dwyn heriau sylweddol i sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n dal i ddarparu gwasanaethau ar gyfer unigolion, cymunedau a busnesau mewn cyfnod eithriadol o anodd.
"Felly mae nodi £8m yn yr ymarfer diweddaraf hwn o dan y Fenter Twyll Genedlaethol yn gyfraniad pwysig o ran cyllido gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
"Mae'n bwysicach nag erioed bod gan sefydliadau drefniadau llywodraethu a rheolaethau cadarn ar waith i helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol rhag y risg o dwyll ar yr adeg hon o argyfwng."
Mae bron i £43m o dwyll a gordaliadau wedi cael eu canfod yng Nghymru ers i'r Fenter Twyll Genedlaethol ddechrau yn 1996.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020