Nifer 'digynsail' o sgamiau'n ymwneud â coronafeirws
- Cyhoeddwyd

Mae pryder y bydd twyllwyr yn manteisio wrth i fwy o bobl sy'n hŷn neu'n agored i niwed droi at y we
Mae'r awdurdodau yng Nghymru yn delio gyda nifer "digynsail" o sgamiau wrth i dwyllwyr geisio manteisio ar ymlediad coronafeirws, yn ôl asiantaeth Safonau Masnach.
Ymhlith y sgamiau'n ymwneud â COVID-19 mae gwasanaethau siopa twyllodrus a thwyllwyr yn honni bod angen archwilio tanciau dŵr am y feirws er mwyn cael mynediad at dai.
Dywedodd Safonau Masnach Cymru bod mathau newydd o sgamiau - rhai wyneb yn wyneb ac ar-lein - yn ymddangos bob dydd.
Mae elusen Cymorth i Ddioddefwyr yn disgwyl y bydd achosion o droseddau ar y we yn cynyddu drwy gydol y cyfnod o ynysu cymdeithasol, gyda sgamwyr yn "manteisio ar ofnau pobl".
'Esgus gwneud cymwynas'
Mae Alison Farrar o Safonau Masnach Cymru'n dweud bod swyddogion yn delio gyda lefelau twyll sydd "heb eu gweld o'r blaen".
"Dechreuodd gyda phobl yn esgus gwneud cymwynas i rywun, cynnig gwneud eu siopa ond yn cymryd yr arian a pheidio dod yn ôl," meddai.
"Yna dechreuon ni weld y galwadau a'r e-byst, llythyron a negeseuon testun.

Mae twyllwyr yn manteisio ar y sefyllfa i gael arian a manylion banc pobl, medd Alison Farrar
"Mae pob un yn honni i fod yn rhywbeth i'w wneud â'r coronafeirws - un ai yn ceisio eich annog i hawlio arian yn ôl neu roi arian yn ôl.
"Yn y pen draw maen nhw'n gobeithio am eich manylion banc a'ch gwybodaeth bersonol. A'r nod ydy cymryd eich cynilion oes."

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

Cynnig nwyddau hanfodol
Un o'r pryderon mwyaf i'r heddlu ydy bod mwy o bobl yn dod i gysylltiad â thwyllwyr, wrth i fwy o bobl hŷn ac agored i niwed droi at y we.
"Yr hyn 'dy ni'n ei weld ydy pobl yn ceisio manteisio ar y bobl sy'n agored i niwed," meddai Prif Gwnstabl Heddlu Gwent ac arweinydd dros Gymru ar droseddau seibr, Pam Kelly.
"Maen nhw'n rhoi llawer o gynigion y gallai fod llawer o bobl eu heisiau - er enghraifft, papur toiled neu hylif glanhau dwylo.
"Ond 'dy ni'n gweld bod pobl yn prynu'r eitemau ar y we, ond dydyn nhw byth yn dod i'r fei. Neu os ydyn nhw yna maen nhw'n rai ffug."

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly'n annog dioddefwyr i beidio fod â gormod o gywilydd i fynd at yr heddlu
Er ei bod yn ymwybodol y gallai pobl deimlo embaras o fod wedi rhoi arian i dwyllwyr, dywedodd Ms Kelly bod adrodd y sgamiau yn bwysig iawn.
"Mae'r gorau ohonom yn naïf ac weithiau mae'r twyllwyr yn soffistigedig.
"Gwnewch yn siŵr eich bod yn adrodd y problemau yma i ni. Os nad ydych chi'n eu hadrodd yna fyddwn ni fyth yn gwybod gwir faint y broblem."

Mae pryder y bydd yna fwy o achosion o sgamio rhamant wrth i bobl dreulio fwy o amser ar-lein, medd Luke Seidel-Haas o Gymorth i Ddioddefwyr Cymru
Yn ôl Cymorth i Ddioddefwyr mae'n debygol y bydd sgamiau sydd ddim yn ymwneud â coronafeirws, fel sgamiau rhamant, yn fwy cyffredin hefyd wrth i dwyllwyr "fanteisio ar ofnau pobl".
"Fel arfer, drwy sgamiau rhamant rydych chi'n gwneud ffrind ar y we, mae 'na gyfnod o greu perthynas... cyn iddyn nhw ddod atoch chi am arian," meddai Luke Seidel-Haas.
"Mae pobl yn barod iawn i greu cysylltiadau ar-lein ar hyn o bryd, gan nad ydyn nhw'n gallu gweld pobl wyneb yn wyneb.
"Gyda rhamant ar-lein efallai bod pobl yn siarad ar y we am gyfnod cyn cyfarfod wyneb yn wyneb - ond does ganddon ni ddim yr opsiwn yna ar hyn o bryd.
"O bosib mae pobl yn fwy agored i gredu bod pobl yn gyfeillgar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020