'Ro'n i'n gyndyn o ddefnyddio ffon o flaen ffrindiau'
- Cyhoeddwyd
Ar ôl colli ei golwg bron yn llwyr i ganser pan oedd yn fabi, mae Ffion Miles wedi ymdopi gyda byw bywyd yn llawn gyda'i nam golwg ers hynny - ond newydd fedru cyfaddef wrth deulu a ffrindiau agos ei bod yn defnyddio ffon wen mae hi.
Mae Ffion o Landudno yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn lle mae'n gweithio fel swyddog y wasg i elusen.
Yma, mae Ffion yn egluro i Cymru Fyw pam ei bod hi wedi bod yn anodd 'dod allan' fel defnyddiwr ffon ac, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun i ddatblygu technoleg iaith yn y Gymraeg, beth yw'r pethau eraill sy'n gallu gwneud bywyd yn anoddach i rywun sydd ag anhawster gweld ac yn dibynnu ar dechnoleg - yn enwedig yn Gymraeg.
Colli golwg
Dwi erioed yn cofio gweld y byd yn glir.
Ar ôl colli un llygad i diwmor yn fabi, a chael dos da o radiotherapi i'r llall - sy'n lladd y canser, ond hefyd eich golwg - cefais fy nghofrestru'n ddall yn bum mlwydd oed.
Ond nid yw hynny'n golygu nad ydych yn gallu gweld dim o gwbl.
Roeddwn yn hapus i redeg rownd maes chwarae'r ysgol - nid oedd fy rhieni am i mi gael fy addysg 100 milltir o adref yn Lloegr. Gyda chymorth un-wrth-un, athro Braille a grŵp gwych o ffrindiau, mi wnes i fwynhau'r ysgol, heblaw am chwaraeon. Gormod o beli…
Wrth fynd i'r brifysgol, roedd gen i ddigon o olwg i'w heglu hi fyny'r grisiau i fy narlithoedd bob dydd ac i ddarllen yr holl domen o nodiadau - a llyfrau Harry Potter - o dan sgrin fy chwyddiadur.
Ond yn araf deg, collais y ganran yna o olwg sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng gwybod - a pheidio â bod yn sicr - ble mae'r gris 'na.
Ond, doeddwn i erioed wedi cwrdd â defnyddiwr ffon - symbol mor amlwg o drafferth gweld. Roeddwn yn gyndyn o'i ddefnyddio o flaen fy nheulu a hen ffrindiau, er i'r ffaith fy mod i'n dal 'mlaen i'w peneliniau wrth grwydro'r stryd yn gwneud hi'n amlwg nad ydw i'n gallu camu allan heb ddull o osgoi postyn!
Felly, penderfynais 'ddod allan' ar fy nhudalen Facebook Blaze Through The Haze, dolen allanol gyda llun o ffon sgleiniog, a chychwyn sôn am sut na allaf ymdopi heb Blu Tack i wybod p'run o fy mhotiau sbeis yw p'run, y sialens o ddweud y gwahaniaeth rhwng y Doctor Who newydd a'i chynorthwyydd (gan bod eu lleisiau mor debyg) - a thechnoleg.
Geraint a Gwyneth yn arwain y ffordd
Wrth gwrs, yn y bôn, gwyrth anhygoel yw'r gallu i glicio eich ffordd o amgylch cyfrifiadur gyda llais yn eich tywys.
Croeso mawr felly i Geraint, fy llais yn y gwaith. Un sialens bach yw ei fod yn dod o'r de, ac felly heb y gallu i ynganu 'u', na chwaith, am ryw reswm, 'ac'. Bydd rhaid i mi drio lawrlwytho Gwyneth, y llais arall.
[Geraint a Gwyneth yw'r lleisiau Cymraeg sydd ar gael ar gyfer meddalwedd sy'n darllen testun yn uchel oddi ar sgriniau cyfrifiadur.]
Anhawster arall yw nad yw Geraint chwaith mor dda am ynganu'r holl dermau sy'n egluro beth rwyf yn sleidio'r llygoden drosto - rhaid cofio mai 'sa-fe ffi-le' yw 'save file'.
Ond gyda saith clic, gallaf neidio'n ôl i Nigel, llais y Sais.
Siom arall Geraint yw nad yw'n gallu dod gyda fi i grwydro teclyn pwysicaf ein bywydau - y ffôn symudol.
Rwyf wir yn ddiolchgar i Steve Jobs am greu'r iPhone - teclyn hudol, llawn cyngor a chymorth sy'n eich arwain i ddrws eich siop trin gwallt ac yn galluogi i chi lawrlwytho cyfres o lyfrau y byddai angen troli, os nad car, i'w cludo mewn llyfrau Braille.
Efallai o ddiddordeb:
Mae'r ffôn hefyd yn ffordd dda o rannu jôcs a sgwrsio gyda'ch ffrindiau - ond nid yn y Gymraeg.
I ddarllen e-bost neu dudalen o'r we yn Gymraeg, rhaid cael dyfais arall sy'n ei drosglwyddo i Braille - a digon o le yn eich bag am fwy o offer, a thros £1,000 i brynu'r un gorau.
Felly am rŵan, 'na'i aros efo fy hen declyn Braille Sense - nid y peth lleiaf yn y byd, ond yn ddigon bach i mi ei ddal i lawr ger fy nghoes, a gallu darllen geiriau caneuon yn ddirgel wrth berfformio gyda'r côr!
Dwi hefyd am gynyddu fy ngwybodaeth o ddiwylliant Cymraeg trwy lawrthlwytho OverDrive, ap sy'n gaddo sawl llyfr llafar Cymraeg!
Mae'n amser felly i ddad-tanglo fy nglustffon (dim ond un gan fod angen clywed y byd o'm amgylch), tynnu fy ffon allan o'm mag i guro unrhyw rwystr allan o'r ffordd, a mwynhau llyfr Cymraeg am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd.
Mae gwybodaeth am y llyfrau a'r cylchgronau llafar sydd ar gael yn Gymraeg ar wefan Llyfrau Llafar Cymru, dolen allanol a mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i drosglwyddo testun i sain ar wefan RNIB, dolen allanol.