Dartiau: Gerwyn Price yn fuddugol yn Grand Prix Y Byd

  • Cyhoeddwyd
Gerwyn PriceFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Gerwyn Price wedi codi i rif dau yn rhestr detholion y byd ar ôl dod yn bencampwr dartiau Grand Prix Y Byd.

Fe gurodd Dirk van Duijvenbode o'r Iseldiroedd 5-2 yn y rownd derfynol yn Coventry.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y Cymro 35 oed wedi ennill pedair cystadleuaeth mewn pedair wythnos.

Roedd eisoes wedi dod yn fuddugol eleni ym mhencampwriaeth Cyfres y Byd ac mewn dwy Gamp Lawn.

Gydag ods o 200-1 yn ei erbyn, Van Duijvenbode, sy'n 28 oed ac yn weithiwr swyddfa ar fferm aubergines, oedd y chwaraewr cyntaf i gyrraedd y rownd derfynol ar ei gynnig cyntaf.

Yr Iseldirwr hefyd gafodd sgôr orau'r ornest, 135, ac fe lwyddodd i gau'r bwlch ar ôl i Price fod ar y blaen o 2-0 a 4-1.

Ond roedd y Cymro'r rhy gryf iddo yn y pen draw, ac fe ddaeth â'r ornest i ben gyda sgôr olaf o 102.