Gwynedd: Ymestyn cyfyngiadau'n 'debygol' cyn hir
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr Cyngor Gwynedd wedi awgrymu y bydd cyfyngiadau coronafeirws lleol yn cael eu hymestyn ar draws weddill y sir "cyn hir".
Mewn cyfarfod â'r cabinet dydd Mawrth, dywedodd arweinydd y cyngor, Dyfrig Siencyn, ei bod yn edrych yn "debygol" bydd angen ehangu'r ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol penodol o ganlyniad i'r cynnydd mewn achosion y tu allan i Fangor.
Daeth cyfyngiadau lleol mewn i rym yn ninas Bangor am 18:00 nos Sadwrn.
Heblaw am ddinas Bangor, Gwynedd ac Ynys Môn yw'r unig siroedd yng ngogledd Cymru sydd ddim o dan gyfyngiadau lleol penodol ar hyn o bryd.
Yn ôl Mr Siencyn: "Wrth i ffigyrau gynyddu yn ardaloedd arall o'r sir, mae'n edrych yn bendant fel bydd ardal ehangach o'r sir o dan gyfyngiadau penodol cyn hir."
"Pwy all wir ddeud? Ond mae nifer yr achosion bendant yn mynd yn y cyfeiriad anghywir."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gofio bod ymdrechion mewn lle i geisio lleihau lledaeniad y feirws ac i atal mwy o wasgedd ar ein gwasanaeth iechyd ac unrhyw farwolaethau diangen."
Ychwanegodd bod y mater wedi cael ei godi gyda Llywodraeth Cymru.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cyfradd yr achosion yng Ngwynedd yn 91.5 i bob 100,000 person ar gyfer yr wythnos ddiwethaf.
Ond mae'r nifer o achosion yn amrywio yn sylweddol o un ardal i'r llall.
Yn ardal Arfon - sy'n cynnwys Bangor - mae'r gyfradd yn 152 achos am bob 100,000 person, o'i gymharu â 55 yn Nwyfor ac 18 ym Meirionydd.
Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu byddai cyfradd o 50 achos am bob 100,000 person yn gallu arwain at gyfyngiadau lleol.
Cyn belled, mae 15 sir yng Nghymru yn destun cyfyngiadau lleol penodol, gyda Bangor a Llanelli yn Sir Gaerfyrddin yr unig ddinasoedd a threfi sydd dan gyfyngiadau lleol penodol.
Ym Mangor, mae'r mesurau'n berthnasol i wyth o wardiau - Garth, Hirael, Menai, Deiniol, Marchog, Glyder, Hendre a Dewi.
Nid oes modd teithio i mewn nac allan o'r wardiau dan sylw heb esgus rhesymol, sy'n cynnwys teithiau gwaith ac addysg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2020