Cadarnhau cynlluniau am gyfnod clo cenedlaethol byr

  • Cyhoeddwyd
MD
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y bydd y cyfnod clo cenedlaethol yma am gyfnod penodol, yn wahanol i'r un yn gynharach eleni

Mae Llywodraeth Cymru'n cynllunio ar gyfer cyfnod clo cenedlaethol byr i arafu lledaeniad coronafeirws, cadarnhaodd y Prif Weinidog ddydd Gwener.

Ond dywedodd Mark Drakeford nad oes unrhyw benderfyniad terfynol eto, gyda thrafodaethau i fod i barhau dros y penwythnos.

Mae cyhoeddiad terfynol wedi'i gynllunio ar gyfer dydd Llun.

Mae mwy na 2,500 o bobl bellach yn cael eu heintio bob dydd, meddai, gydag unedau gofal critigol mewn ysbytai'n llawn.

"Dydy gwneud dim byd ddim yn opsiwn," meddai.

Dywedodd hefyd mai cadw ysgolion ar agor ydy "ein blaenoriaeth bennaf".

Beth fydd y cyfnod clo newydd?

Dywedodd Mr Drakeford y gallai'r cyfnod clo cenedlaethol bara cyfnod penodol - pythefnos neu dair wythnos - gyda chyfnod byrrach yn golygu mesurau llymach.

Byddai'r clo llym, meddai, yn gweithio "yn yr un modd ag y gwnaeth 'nôl ym mis Mawrth ac Ebrill eleni".

"Roedd teithio allweddol yn bosib hyd yn oed pan oedd y cyfnod clo mwyaf difrifol mewn grym, a'n bwriad yw dyblygu hynny cymaint â phosib," meddai.

"Byddai hyn yn sioc fer, sydyn i'r feirws, a allai droi'r cloc yn ôl, arafu ei ymlediad a phrynu mwy o amser inni - a rhoi mwy o gapasiti hanfodol i'r gwasanaeth iechyd.

"Bydd yn rhaid i ni aros adref eto i arbed bywydau ond y tro hwn am wythnosau nid misoedd."

Ychwanegodd: "Gyda'n gilydd gyda rheolau cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru gyfan byddwn yn gallu arafu'r feirws erbyn y Nadolig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ysbytai'n dechrau'r teimlo'r pwysau eto wrth i achosion Covid-19 gynyddu, meddai Mr Drakeford

Mae nifer y bobl sydd mewn ysbyty gyda Covid-19 yn 825 ac mae'r rhif R - sef y nifer o bobl y mae person heintus yn ei heintio - yn 1.4.

Mae hyn yn golygu, medd Mark Drakeford, bod nifer yr achosion yn codi yn hytrach na gostwng.

Mae bwytai, busnesau bwyd ac undebau wedi galw am eglurder ynghylch cynlluniau'r llywodraeth i atal Covid-19 rhag ymledu.

'Cysgodi, nid cloi'

Ar ei gyfrif Twitter, mae'r Ceidwadwr Andrew RT Davies wedi dweud na ddylai Mr Drakeford gyhoeddi cyfnod clo byr mewn cynhadledd newyddion.

"Os yw pethau mor ddifrifol, dylid fod wedi galw'r Senedd yn ôl ar frys ddydd Llun a chyflwyno datganiad yr adeg honno," meddai.

Dywedodd David Rowlands, Aelod o'r Senedd dros grŵp newydd yr Independent Alliance for Reform: "Dydyn ni ddim yn credu bod hyn wedi cael ei drin yn y ffordd iawn o gwbl.

"Yr hyn ddylen ni fod yn ei wneud ydy canolbwyntio ar sicrhau bod y rheiny sy'n fregus yn cysgodi mewn rhyw ffordd, yn enwedig mewn cartrefi gofal ac ysbytai."

Yn y cyfamser, mae Mr Drakeford hefyd wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith yn aros am o leiaf wythnos arall.

Mae cyfyngiadau llymach mewn grym yn 15 o'r 22 awdurdod lleol, yn ogystal ag yn Llanelli a Bangor.

Daeth y cyfyngiadau cyntaf i rym ym mwrdeistref Caerffili ychydig dros fis yn ôl, a'r rhai diweddaraf ym Mangor wythnos yn ôl.