Angen 'rheoleiddio' y byd reslo

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Kat von Kaige: Profiad menyw yn y byd reslo

Pan ddechreuodd Kat Von Kaige reslo pum mlynedd yn ôl, roedd yn anodd anwybyddu'r "lad culture" o'i chwmpas.

Derbyniodd Kat, 28 oed o Ferthyr Tudful, nifer o negeseuon pan ddechreuodd hi hyfforddi fel reslar.

"Roeddech chi'n cael negeseuon o wrestlers, o dynion, yn jyst gofyn basically, 'd'you wanna go on a date' neu'n danfon lluniau eich hun nôl i chi, gyda'ch pen ôl mas...pethau fel 'na. Mae dal yn digwydd gyda'r ffans."

"Roedd e tipyn bach yn anodd gwybod sut i respondio i fe - be' dwi'n dweud i hwn? Ma' rhai o nhw, dwi'n gweithio gyda nhw, so fi'n mynd i weld nhw wythnos nesa' mewn sioe, so be' dwi'n neud hefo hwn? Ble dwi'n mynd o hwn?"

Mae Kat yn un o nifer cynyddol o reslwyr benywaidd sydd wedi siarad am eu profiadau o fewn y byd reslo.

O ganlyniad i'r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o brofiadau menywod o fewn y diwydiant, mae'r dilynwr reslo ac AS Pontypridd Alex Davies-Jones wedi lansio ymchwiliad seneddol i edrych ar y diffyg rheoleiddio a llywodraethiant o fewn y diwydiant.

Fel un o ddim ond pedair o ferched oedd yn reslo yng Nghymru pan ddechreuodd hi, dywedodd Kat iddi gael ei gwneud i deimlo fel "fresh meat" ar y cychwyn.

"Roedd agweddau pobl yn wahanol, o'n i jyst yna achos o nhw angen dweud bod match merched arno," meddai.

Mae Kat yn un o nifer o ferched sydd wedi ymuno â'r ymgyrch #SiaradAllan dros yr haf, ble fuodd nifer o fenywod yn rhannu eu profiadau personol am y byd reslo ar-lein.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Alex Davies-Jones wedi lansio ymgyrch i fewn i'r diwydiant reslo

Ar ôl gweld y "straeon erchyll" ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr AS Alex Davies-Jones bod hi am ddefnyddio'i safle i helpu.

Mae bellach wedi lansio ymholiad seneddol i ddarganfod mwy am "sut allen ni wella'r diwydiant".

Dywedodd: "Mae rhai o'r straeon brawychus ni wedi clywed o ferched mor ifanc â 13, 14, gafodd eu bygwth gyda thrais rhywiol os oedden nhw am reslo."

Ychwanegodd: "Clywsom ni straeon am ddynion sy'n reslo i gystadlu i weld pwy fyddai'r cyntaf i gael rhyw gyda merch er enghraifft."

Dywedodd cyd-gadeirydd y grŵp nad oedd hi eisiau "barnu ymlaen llaw" yr ymchwiliad ond bod y dystiolaeth yn awgrymu bydd angen corff llywodraethol ar gyfer y diwydiant.

Ychwanegodd Ms Davies-Jones: "Y broblem yw bod reslo yn cwympo mewn i gategori llwyd... dyw e ddim yn cael ei weld fel sbort, a dyw e ddim wir yn cael ei weld fel adloniant ychwaith... ac mae wedi cael ei adael i redeg ei hunain".

Ffynhonnell y llun, Kat Von Kaige
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kat wedi reslo mewn sioeau ar draws Ewrop

Mae Kat yn meddwl byddai rheoleiddio "yn helpu".

"Ar hyn o bryd, mae unrhyw un yn gallu rhoi sioe reslo ymlaen heb unrhyw hyfforddiant, ac mae unrhywun yn gallu dechrau ysgol [reslo]. Ac wrth gwrs mae plant a phobl ifanc yn mynd i'r ysgolion. Mae bach yn beryglus," meddai.

Ychwanegodd: "Mae llawer mwy o fenywod [yn reslo] nawr" a "ni'n siarad hefo'n gilydd, so mae wedi helpu'r byd reslo, ac mae mwy o fenywod yn dod i mewn, sy'n wych."