'Dyddiau du' i dwristiaeth ond ambell gyfle hefyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r sector twristiaeth yng Nghymru yn wynebu "dyddiau du iawn" gyda busnesau'n cau a gwestai'n gorfod cau eu drysau dros dro, medd Cynghrair Twristiaeth Cymru.
Mae'r gynghrair, sy'n cynrychioli miloedd o gwmnïau, yn dweud bod ail don o Covid-19 yn golygu fod gobeithion o wneud yn iawn am "fisoedd colledig" yn diflannu.
Ond mae rhai o fewn y diwydiant yn dweud y gallai hyn fod yn gyfle i ddenu ymwelwyr newydd a gwella cynaliadwyedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod pecyn cymorth gwerth £1.7bn wedi bod o gymorth, a'u bod wedi ymrwymo i wella cynaliadwyedd.
Gwaharddiad
Dywedodd Adrian Greason-Walker o Gynghrair Twristiaeth Cymru: "Os fydd pethau'n gwella a busnesau'n goroesi, yna rwy'n credu ein bod mewn lle da i ddenu cwsmeriaid fyddai fel arfer yn teithio dramor.
"Fodd bynnag ry'n ni ond wedi cael rhyw bum wythnos o fasnachu eleni yn hytrach na'r 20 wythnos arferol dros yr haf.
"Ar hyn o bryd mae pethau'n ddu."
Daw'r sylwadau wrth i waharddiad Llywodraeth Cymru ar bobl i deithio o ardaloedd risg uchel o coronafeirws yng ngweddill y DU i Gymru ddod i rym nos Wener.
Mae disgwyl hefyd i gyfnod clo byr gael ei gyhoeddi yn genedlaethol er mwyn atal twf y feirws ar draws y wlad, a hynny dros y dyddiau nesaf.
Ychwanegodd Mr Greason-Walker bod tua hanner y busnesau gafodd ei holi gan y Gynghrair yn poeni na fyddan nhw'n goroesi'r chwe mis nesaf.
Un ardal sydd wedi profi'n wahanol yw Eryri, gyda ffigyrau Croeso Cymru'n awgrymu bod mwy o bobl yn bwriadu ymweld â'r Parc Cenedlaethol nag unman arall yng Nghymru dros y misoedd nesaf.
"Byddwn i'n dweud mai dyma'r haf prysuraf i ni weld erioed," medd Helen Pye, Swyddog Ymgysylltu gyda'r Parc Cenedlaethol.
"Roedd Awst yn anhygoel o brysur, ac ym mis Medi roedd ein ffigyrau tua 40-50% yn uwch o gymharu â blwyddyn arferol.
"Rwy'n credu ein bod wedi gweld newid yn ein hymwelwyr oherwydd mae llawer yn penderfynu cymryd gwyliau agosach at adre - maen nhw'n bryderus am deithio dramor."
Ond mae hynny wedi cyflwyno heriau i staff y Parc hefyd.
"Mae cynnydd mawr wedi bod mewn traffig, llygredd a sŵn yn y parc cenedlaethol. Ry'n ni hefyd wedi gweld llwyth o sbwriel yn yr ardal, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol," ychwanegodd Ms Pye.
'Marchnata llefydd llai adnabyddus'
"Nod twristiaeth gynaliadwy yw lleihau effeithiau negyddol twristiaeth a gwneud y gorau o'r buddion," meddai Louise Dixey o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd.
"Nid faint o ymwelwyr sy'n dod yw'r peth pwysig, ond faint y maen nhw'n gwario ac a yw eu hymweliad yn gallu bod o fudd i gymunedau lleol.
"Mae angen pwyslais bron ar ddad-farchnata rhai o'r llefydd mwyaf poblogaidd fel Eryri, a marchnata rhai o'r llefydd llai adnabyddus yng Nghymru er mwyn ceisio gwasgaru'r llwyth o ymwelwyr a medru rheoli hynny'n haws."
Ond i rai, fyddai strategaeth felly ddim yn mynd yn ddigon pell.
Dywed Howard Huws o Gylch yr Iaith fod rhai cymunedau Cymraeg wedi teimlo wedi'u llethu gan y diwydiant twristiaeth am ddegawdau.
"Maen nhw'n dweud o hyd mai'r unig ffordd i ddelio gyda thwristiaeth yw i'w hybu ymhellach - ond rydym eisoes mewn sefyllfa lle mae'n creu niwed," meddai.
"Mae pobl leol yn cael ychydig iawn o gyfleoedd am swyddi, ac mae unrhyw gyfleoedd mewn twristiaeth yn swyddi tymhorol ac â chyflogau isel.
"Effaith hyn yn ei dro yw nad yw pobl yn medru fforddio tai yn lleol.
"Mae pobl yn sôn am amrywio neu wasgaru twristiaeth - ond nid am ei reoli. Heb ei reoli, does dim yn gynaliadwy."
Ar draws y diwydiant, mae cydnabyddiaeth y gallai fod coronafeirws wedi creu paradocs rhyfedd - ar un llaw yn chwalu busnesau twristiaeth, ac ar y llaw arall yn creu mwy o alw amdanynt yn y dyfodol wrth i bobl newid o wyliau tramor i wyliau yn agosach at adre.
Ychwanegodd Louise Dixey: "Y pryder yw na fydd llawer o fusnesau twristiaeth yn goroesi tan gwanwyn 2021... ond mae cynnydd aruthrol yn y galw domestig.
"Mae'n bosib y byddwn mewn sefyllfa y flwyddyn nesaf lle mae'r galw yn llawer uwch na beth fydd ar gael, yn enwedig o safbwynt llety, ac fe fyddai hynny'n cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd28 Medi 2020