Llaneirwg: Ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 54 oed

  • Cyhoeddwyd
Dywed yr heddlu fod y dioddefwyr yn adnabod y dyn 21 oed sydd wedi'i arestio
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr heddlu fod y dioddefwyr yn adnabod y dyn 21 oed sydd wedi'i arestio

Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill yn dilyn marwolaeth dyn 54 oed ar gyrion Caerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Cypress Crescent yn Llaneirwg tua 20:00 ddydd Gwener, ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dynes hefyd wedi ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond nad oedd yn peryglu ei bywyd.

Cafodd dyn 21 oed ei arestio ar Ffordd Casnewydd yn fuan wedi hynny ac mae'n y ddalfa.

Dywedodd ditectifs nad oedden nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad, ond maen nhw wedi apelio am wybodaeth gan unrhyw dystion.