'Bwysig i wrando a theimlo empathi wrth fynd trwy'r cyfnod clo'
- Cyhoeddwyd
Yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Llun am gyfnod clo cenedlaethol o nos Wener 23 Hydref tan 9 Tachwedd, a chyfyngiadau ar yr hyn fedr teuluoedd wneud dros y gwyliau hanner tymor, mae dwy seicolegydd yn trafod effaith hyn arnon ni.
A sut allwn ni helpu plant a phobl ifanc i ddelio gyda'r cyfnod ansicr sydd i ddod?
"Mae'n naturiol i blant a phobl ifanc deimlo'n bryderus," meddai Ffion Buckland-Williams sy'n Seicolegydd Addysg yng Nghaerdydd.
"Ac mae cymryd amser i wrando ac ystyried gofidion plant gyda chwilfrydedd, yn allweddol.
"Mae ymchwil wedi dangos lefelau uwch na'r arfer o straen, pryder ac iselder ymysg plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod coronafeirws, ac mae'r ymchwil yn awgrymu bod cau ysgolion, amser i ffwrdd wrth gyfoedion, gor-ymwybyddiaeth o newyddion, diffyg rheolaeth a phryderon am iechyd wedi cyfrannu i'r cynnydd yma," ychwanegodd.
Fe wnaeth y cyfnod clo o fis Mawrth tan yr haf arwain at nifer o newidiadau a cholled i blant a phobl ifanc, gan gynnwys colli arholiadau a dathliadau diwedd ysgol.
Gyda chyhoeddiad diweddaraf Mark Drakeford ddydd Llun, mi fydd colli partïon Calan Gaeaf a thân gwyllt ar flaen meddwl rhai plant, wrth fynd i mewn i wyliau hanner tymor gwahanol i'r arfer.
Yn ôl Ffion Buckland-Williams, mae'n bwysig i gydnabod y colledion hyn, a dangos empathi tuag at y teimladau sydd ynghlwm â'r colledion hefyd.
Yn ogystal, mae angen ymarfer bod yn ddiolchgar, a chymryd amser i feddwl am yr hyn rydym yn diolch amdano bod dydd, gan y bydd hynny yn hybu lles.
Sut i edrych ar ôl ein hunain wrth wynebu cyfnod clo newydd:
Hunan-ofal. Gofalwch am eich iechyd meddwl eich hunain, a'i drafod mewn ffordd agored. Rhowch flaenoriaeth i arferion cwsg da er mwyn hybu iechyd meddwl da, a hybwch ymarfer corff a bwyta'n iach.
Rhowch gyfle i bawb feddwl am weithgareddau sy'n hybu eu hapusrwydd unigol a rhoi cyfle i'w gwneud yn rheolaidd, a chysylltwch gyda'ch plentyn drwy rannu gweithgareddau o'u dewis neu chwarae yn rheolaidd.
Siarad a Gwrando. Rhowch gyfle ac amser i blant siarad os ydynt am wneud hyn. Edrychwch am newidiadau yn eu hymddygiad arferol a all roi syniad o beth sydd ar eu meddwl. Rhowch atebion gonest a ffeithiol i gwestiynau, sydd yn addas i oedran eich plentyn.
Cysylltu yn gyson gyda theulu a ffrindiau er mwyn ceisio lleihau unigrwydd, gall hyn gynnig sicrwydd a chysur gwerthfawr yn y cyfnod yma.
Ceisiwch ddarparu sicrwydd, normalrwydd a rwtîn.
Atgoffwch eich hun am yr hyn rydych wedi ymdopi ag o hyd yn hyn.
Peidiwch 'cau'r sgwrs lawr'
Mae'r seicolegydd clinigol, Dr Mair Edwards, yn cytuno bod "cyfathrebu da rhwng rhieni neu athrawon a phlant a phobl ifanc yn hanfodol."
"Y peth cyntaf ydy ein bod ni angen cydnabod - dydy pethau ddim yn iawn ar hyn o bryd.
"Mae'n gyfnod tebyg, efallai, i beth aeth hen neiniau a hen deidiau drwyddo fo adeg y rhyfel; rydyn ni'n gweld newid mewn cymdeithas.
"Mae'n bwysig bod plant yn teimlo'n gyfforddus i siarad â ni ac i oedolion wrando ac i beidio â chau sgwrs y plant i lawr yn syth. Yna, mynd ati i geisio datrys yr hyn sy'n eu poeni," meddai Dr Mair Edwards, wrth drafod lles a iechyd meddwl.
"Os ydy plentyn yn drist am golli rhywbeth penodol [er enghraifft taith breswyl i wersyll yr Urdd neu barti Calan Gaeaf] mae'n bwysig i ddweud 'ydy, mae yn drist, ond rydan ni'n 'neud hyn i gadw pawb yn ddiogel'.
"Mae angen rhoi rheswm pam, ond hefyd eu cysuro a dweud er eu bod nhw'n colli y profiad hwnnw, mi fydd 'na brofiadau tebyg eto yn y dyfodol. Fydd pethau yn gwella.
"Dwi'n meddwl bod lle i roi hyn mewn cyd-destun ehangach i blant a phobl ifanc. Pan fyddan nhw yn edrych nôl - oherwydd cyfnod cymharol fyr o'u bywyd fydd hwn - mi fyddan nhw yn gallu dweud y stori.
"'Ti'n cofio pan oedden ni yn gorfod gwisgo masg a chadw pellter?' Wnaethon ni fyw trwy hynna."
Hefyd o ddiddordeb: