Lle i enaid gael llonydd: Dewi Llwyd
- Cyhoeddwyd
Y darlledwr Dewi Llwyd sy'n crwydro i'r 'lle tawel i gael llonydd' sy'n lleol iddo ef.
Er mor hoff ydw i o Fangor a'r cyffiniau, wnes i erioed feddwl y byddwn i'n gweld cyfnod fel hwn pan nad oes gen i'r hawl i deithio mwy na dwy filltir o'r tŷ.
Mor ddiolchgar mae rhywun felly fod dau le sy'n agos at fy nghalon ers degawdau ar garreg y drws, neu a bod yn fanwl gywir, o fewn pum munud o gerdded.
Gallwn fod wedi dewis y pier enwog, gyda'i olygfeydd godidog o ganol y Fenai, ond go brin y byddai modd disgrifio atyniad mor boblogaidd fel lle i enaid gael llonydd.
Mae'n well crwydro'n hytrach i ben bryncyn bach y mae pobl yn cyfeirio ato ers cyn cof fel Roman Camp, er mai caer Normanaidd nid un Rufeinig fu yno ar un adeg yn ôl y sôn.
Rhywsut mae'n destun syndod fod darn mor helaeth o dir glas, sydd mor agos at ganol y ddinas, wedi aros yn ddigyfnewid am ganrifoedd, a dydy rhywun byth yn blino ar edrych draw at Landudno, y Carneddau, neu Fiwmares ac Ynys Môn yn ogystal â Bangor ei hun.
Roeddwn i wrth fy modd yn dianc yno yn fy arddegau. Hanner canrif yn ddiweddarach, dydy hynny ddim wedi newid.
Hefyd o ddiddordeb: