Covid-19: Cofnodi'r nifer uchaf o achosion ar un diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae 1,148 o bobl wedi derbyn prawf positif am Covid-19 yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf - y ffigwr dyddiol uchaf ers dechrau'r pandemig.
Dyma'r tro cyntaf i dros 1,000 o bobl dderbyn prawf positif yma ar un diwrnod.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 10 o farwolaethau wedi'u cofnodi o ganlyniad i'r feirws dros y 24 awr ddiwethaf.
Cafodd 12,455 o brofion eu prosesu yng Nghymru ddydd Llun.
1,722 o farwolaethau
O'r achosion gafodd eu cyhoeddi ddydd Mawrth, roedd 225 yng Nghaerdydd, 150 yn Rhondda Cynon Taf, 90 yn Abertawe a 69 yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Ceredigion (3) oedd yr unig sir yng Nghymru i gofnodi llai na 10 o achosion.
O'r marwolaethau a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, roedd chwech yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, dau yn Betsi Cadwaladr ac un yr un yn Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro.
Mae 37,400 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru bellach, a 1,722 o'r rheiny wedi marw.
Mae nifer yr achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl dros yr wythnos ddiwethaf hefyd ar gynnydd, gyda'r gyfradd yng Nghaerdydd bellach yn 283.7 i bob 100,000.
217.2 yw'r ffigwr ar gyfer Merthyr Tudful, 200.8 yn Wrecsam ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae'n 192.5.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020