Disgyblion Cymru'n wynebu 'sefyllfa anoddach' eleni
- Cyhoeddwyd
Mae'r "tarfu enfawr" ar addysg disgyblion o ganlyniad i goronafeirws yn cael ei gydnabod, yn ôl pennaeth Cymwysterau Cymru, wrth i ddisgyblion ddisgwyl penderfyniad am arholiadau haf 2021.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker fod cyfnodau clo ac o hunan-ynysu yn golygu bod myfyrwyr Safon Uwch a TGAU eleni yn wynebu "sefyllfa fwy anodd" na'r llynedd, a tharfu pellach i ddilyn o ganlyniad i'r clo byr.
Yn ôl Mr Blaker mae'r corff yn ystyried mesurau fyddai'n "symud i ffwrdd o arholiadau wedi'u hamserlennu" tra'n cynnal y "profiad o berfformio".
Fe fydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer arholiadau haf 2021 ar ôl y clo byr.
Fe fydd plant ym mlwyddyn 9 a hŷn, gan gynnwys blynyddoedd TGAU a Safon Uwch, yn dysgu o adref am wythnos ar ôl hanner tymor fel rhan o'r mesurau gafodd eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Llun.
Dywedodd Mr Blaker y byddai Cymwysterau Cymru'n cyhoeddi eu cyngor i'r Gweinidog Addysg ar arholiadau haf 2021 yr wythnos nesaf.
"Llynedd, fe fethon ni a chynnal arholiadau", meddai.
"Eleni, ar ben hynny, mae'r tarfu i addysgu a dysgu."
"Yr hyn ry'n am ei wneud yw dod o hyd i ddull asesu sy'n deg, yn gadarn ac yn dileu'r ddibyniaeth, mor belled a bod modd, ar amserlenni, ond sy'n caniatáu iddyn nhw gael y profiad perfformiad yna."
Ar hyd Cymru mae athrawon a disgyblion wedi bod yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad.
Un sydd wedi bod yn disgwyl am gadarnhad o'r hyn fydd i ddod ydy Guto Wyn, pennaeth Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.
"Dwi'n meddwl mae'r aros ydy'r peth anodda' a dweud y gwir - er mwyn i'n athrawon ni fedru cynllunio a'n disgyblion ni fedru paratoi yn deg.
"Maen nhw eisiau gwybod beth fydd yr amgylchiadau, felly y peth cyntaf faswn i'n ei ofyn fasa am gyhoeddiad buan a chlir.
"Dydw i ddim yn meddwl ei bod yn rhesymol i roi cyfres o arholiadau fatha fyddai'n digwydd mewn blwyddyn arferol gyda disgyblion wedi colli cymaint o amser dysgu, ond dydw i ddim eisiau chwaith mynd i drefn yn union fel yr haf diwethaf.
"Doedd honno dim yn drefn berffaith o bell-ffordd, ond falle fod na le rhesymol i fynd i dir canol, lle mae graddau wedi eu gosod gan athrawon a wedyn o bosib chydig o brofion llai, llai ffurfiol na arholiadau llawn, ac yn sicr mae eisiau rhyw fath o broses o safoni, o gymedroli, o wneud y siŵr fod safon y cymhwyster yn de yr un fath - ond peidio mynd i sôn am gadw safonau yn debyg be'r oeddan nhw flynyddoedd cynt.
"Dwi'n meddwl mai'r ystadegau wnaeth y mwyaf o niwed yr haf diwethaf."
Mae ei neges i'r llywodraeth yn un syml: "Gwnewch benderfyniad clir, gwnewch o'n fuan a rhannwch wybodaeth glir hefo ni. Rhowch hyfforddiant glir i ni sut i wneud y gwaith yn iawn fel bod ein pobl ifanc ni gyd yn cael chwarae teg."
Pryderon disgyblion
Un o ddisgyblion blwyddyn 11 yn Ysgol Glan Môr ydy Cynan. Dywedodd fod y misoedd diwethaf wedi bod yn heriol wrth iddo baratoi ar gyfer ei arholiadau TGAU:
"Dwi'n meddwl mai'r peth anoddaf sydd wedi bod ydy fod athrawon ddim yno i'n helpu ni pan da ni'n gwneud y gwaith. Os fydde ni ddim yn deall rhywbeth fysa mam a dad ddim yn gallu dy helpu di, ond os fasa athrawon yna mi fasa ti'n deall mwy.
"Da ni wedi methu lot o gyfleoedd ond da ni jyst yn gorfod cario mlaen hefo be da ni'n gallu ei wneud a'r gorau da ni'n gallu ei wneud ar hyn o bryd."
Dywedodd Ella, sydd hefyd yn y un flwyddyn yn Ysgol Glan Môr, fod y misoedd diwethaf wedi bod yn rhai "anodd a chymhleth" gan nad oedd y disgyblion yn gwybod beth i'w ddisgwyl.
"Mae o yn anodd meddwl am y dyfodol, am beth ydan ni fod i'w wneud, os da ni ddim yn gwybod tan fisoedd cynt. Fasa'n well gen i wybod rŵan, paratoi a ballu, da ni ddim yn gwybod beth da ni fod i wneud - pa waith da ni fod i ddysgu, mae o i gyd yn gymhleth.
"Yn bersonol dwi ddim yn gallu gweithio adra. Dwi ddim yn gallu canolbwyntio oherwydd y ffaith bo fi adra, fedrai ddim meddwl am wneud gwaith ysgol, fedrai ddim canolbwyntio arno fo. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith. Gorfod eistedd i lawr - yn enwedig pan roedd hi'n braf tu allan."
Anhrefn
Fe drodd canlyniadau haf 2020 i anhrefn ar ôl i ddegau o filoedd o'r graddau gafodd eu hamcangyfrif gan athrawon gael eu 'hisraddio' gan arwain yn y pendraw at dro pedol gan y llywodraeth.
Dywedodd Philip Blaker y gallai nhw fod "wedi gwneud pethau'n wahanol" ond nad oedd wedi ystyried camu i lawr, fel y gwnaeth pennaeth Ofqual yn Lloegr.
"Ry'n ni'n gwybod ein bod ni'n gorfod ailadeiladu hyder yn y system gymwysterau a hyder ynom ni fel rheoleiddiwr", meddai.
Wrth i ddisgyblion Cymru aros am benderfyniad, mae Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi dweud y bydd arholiadau yn digwydd haf nesa, tra bod llywodraeth yr Alban wedi dweud y bydd asesiadau athrawon a gwaith cwrs yn cymryd lle arholiadau National 5, sy'n cyfateb a TGAU.
Dywedodd pennaeth Cymwysterau Cymru y byddai'r penderfyniadau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried er mwyn sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru o dan anfantais.
Mewn fideo Twitter ddydd Llun dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod yn aros am gyngor pwysig yn ymwneud ag arholiadau gan gynnwys casgliadau adolygiad annibynnol, ac y byddai'n gwneud cyhoeddiad ar ôl i'r clo byr ddod i ben wedi Tachwedd 9.
Fe fydd rhai disgyblion yn sefyll TGAU mewn pynciau craidd ym mis Tachwedd.
Dywedodd Plaid Cymru y byddai'n ailadrodd galwad i ganslo arholiadau haf 2021 mewn dadl yn y Senedd ar ddyfodol addysg ddydd Mercher.
"Os nad oedd eisoes yn amlwg o'r niferoedd uchel o ddisgyblion yn gorfod hunanynysu, dylai fod yn glir o'r cyhoeddiad yr wythnos hon y bydd blwyddyn ysgol 2020/21 wedi cael ei amharu cymaint - os nad mwy - na'r flwyddyn academaidd ddiwethaf", meddai Siân Gwenllian AS.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau na fydd ffiasgo Safon Uwch haf 2020 yn cael ei ailadrodd, drwy wneud datganiad ar unwaith na fydd arholiadau'n cael eu cynnal yn ystod haf 2021".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020