Cyfnod amhenodol mewn uned iechyd meddwl am ladd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a laddodd pensiynwr 88 oed a cheisio lladd tri arall mewn archfarchnad ym Mhen-y-graig, Rhondda Cynon Taf, wedi cael ei dedfrydu i orchymyn ysbyty mewn sefydliad iechyd meddwl diogel.
Er mwyn gwarchod y cyhoedd, ni fydd terfyn amser ar y gorchymyn yn achos Zara Radcliffe, 30 oed.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mercher bod Zara Radcliffe yn diodde' â "salwch meddwl difrifol" pan gyflawnodd yr ymosodiad ar 5 Mai eleni arweiniodd at farwolaeth John Rees.
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd tad Zara Radcliffe, Wayne Radcliffe wrth BBC Cymru nad oedd y gwasanaethau iechyd meddwl wedi gwneud digon yn achos ei ferch.
Roedd hi wedi cael ei rhyddhau o uned iechyd meddwl Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym mis Chwefror.
Clywed lleisiau
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Michael Jones QC, fod Zara Radcliffe yn ddiodde' o sgitsoffrenia pan gyflawnodd yr ymosodiad, a bod Mr Rees wedi ceisio'i hatal mewn "gweithred ddewr ac anhunanol a gostiodd ei fywyd iddo".
Roedd camera CCTV wedi dangos Radcliffe yn croesi'r ffordd i siop Co-op Pen-y-graig cyn ymosod ar Andrew Price yn y stryd.
Llwyddodd yntau i ddianc, ond aeth Radcliffe i mewn i'r siop ac ymosod ar Gaynor Saurin drwy ei thrywanu yn ei phen sawl gwaith.
Ceisiodd Mr Rees ei rhwystro, ond cafodd ei wthio i'r llawr a dechreuodd Radcliffe ymosod arno yntau. Ceisiodd Lisa Way atal Radcliffe, ond cafodd hithau hefyd ei thrywanu cyn dianc i siop arall gyfagos.
Ceisiodd un o weithwyr y siop lusgo Mr Rees i ffwrdd, ond cafodd ei atal gan Zara Radcliffe. Yna fe darodd Mr Rees yn ei ben gyda photeli gwin a diffoddwr tân tan iddo farw o anafiadau i'w ben.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu y siop, dywedodd Radcliffe: "Roedd rhaid ei wneud o - dyna ni."
Dywedodd wrth yr heddlu bod lleisiau yn ei phen wedi dweud wrthi fod rhaid iddi ladd rhywun ar mwyn osgoi cael ei niweidio ei hun.
'Ymbilio am help'
Dywedodd Mr Radcliffe ei fod yn "gallu gweld" iechyd meddwl ei ferch wedi dirywio'n sylweddol yn yr wythnosau cyn yr ymosodiad.
"Fe adawais fy nghartref, ffonio'r tîm iechyd meddwl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac fe wnes i ffonio'r gwasanaethau cymdeithasol hefyd oedd i fod i'w helpu hi a'r tîm seiciatryddol a phawb - sawl galwad ffôn y bore hwnnw rhwng 08:00 hyd at 13;30 - sawl galwad ffôn fel mater o frys.
"'Fedrwch chi ddod allan i weld fy merch achos mae hi'n dangos dirywiad yn ei hiechyd meddwl. Rwy'n credu fod angen iddi fynd i'r ysbyty ar frys - oes modd i rhywun ddod allan os gwelwch yn dda, mae fy merch angen help'. Ond ddaeth na neb."
"Roedd hynny y diwrnod hwnnw am 08:00 yn y bore ar ddydd y digwyddiad hyd at 13:30 yn y prynhawn, yn ymbilio am help.
"Sawl galwad - ond ddaeth neb. Daeth neb i'n helpu."
'Adolygiadau trylwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod hwn yn achos oedd yn creu gwewyr ac roedd y bwrdd iechyd yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r dioddefwr a phawb oedd wedi eu heffeithio.
"Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cynnal adolygiadau trylwyr i bob digwyddiad i sicrhau fod ein dulliau o weithio a systemau yn newid neu wella pryd bynnag mae hyn yn angenrheidiol.
"Gyda'r ochr gyfreithiol nawr wedi dod i ben yn yr achos hwn, fe fyddwn yn parhau ar frys gyda'r gwaith yma.
"Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth i unrhyw un yn y gymuned allai fod wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn."
Clywodd y llys bod Zara Radcliffe wedi cael triniaeth iechyd meddwl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg rhwng 13-22 Hydref 2019.
Aeth yno eto ar 12 Tachwedd 2019, ond cafodd ei rhyddhau ar 24 Chwefror eleni wedi i asesiad ddod i'r casgliad ei bod yn peri risg isel o niwed.
Nid oedd ar unrhyw feddyginiaeth adeg yr ymosodiad, a clywodd y llys fod ei theulu wedi gofyn am gymorth ychwanegol iddi hi.
Mewn gwrandawiad ddydd Llun, plediodd Radcliffe yn ddieuog i lofruddiaeth John Rees, ond yn euog o'i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Plediodd yn euog hefyd i geisio llofruddio Gaynor Saurin, Andrew Price a Lisa Way.
Wedi'r digwyddiad, fe wnaeth Heddlu De Cymru gyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu gan eu bod wedi cael cysylltiad blaenorol gyda Zara Radcliffe, ond fe ddaethon nhw i'r casgliad nad oedd angen ymchwiliad pellach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020