Pum munud gyda’r nofelydd Richard Owain Roberts
- Cyhoeddwyd
Mae Richard Owain Roberts ar restr fer gwobr The Guardian, Not the Booker Prize.
Yn wreiddiol o Ynys Môn, fe astudiodd ym Manceinion a Lerpwl cyn setlo yng Nghaerdydd lle mae'n byw gyda'i wraig a'u dau o blant.
Fel soniodd ar raglen BBC Radio Cymru Dros Ginio, Hello Friend We Missed You ydy ei nofel gyntaf - ac mae cwmnïau ffilm wedi dangos diddordeb yn y stori yn barod.
Bydd enillydd teitl Not the Booker Prize yn cael ei enwi ddydd Llun, 26 Hydref.
Pryd wnes di ddechrau sgwennu?
Fy llyfr gynta' oedd All the Places We Lived - storis byr a chasgliad bendigedig yn 2015. Ers hynny dwi wedi gwneud bits and bobs ond hwn ydi nofel cynta' felly mae wedi bod yn broses hir ond proses dwi wedi mwynhau.
Ydy'n wir dy fod di'n boblogaidd yn Serbia?
Mae o dipyn bach allan o leftfield! Wnaeth All The Places, y casgliad cyntaf, fynd lawr yn dda iawn yn Serbia ac wedyn roedden nhw eisiau fi fynd draw yno i wneud taith a mynd o ddinas i ddinas dros wyth diwrnod.
Roedd rhywun yn ffilmio fi am yr wyth diwrnod [ar gyfer rhaglen deledu yn y wlad] a dwi'n siŵr unwaith fydd hwnna allan fydd yn ddiddorol i fi wylio - os wna i wylio fo!
Wnaeth y llyfr fynd lawr mor dda yn Serbia ond dwi ddim yn gwybod pam. Mae'r pethau yma weithia' jest yn digwydd. Roedd jest rhyw connection dwi'n meddwl rhwng y bobl yn Serbia a phobl yng Nghymru.
Sut lyfr ydi Hello Friend We Missed You?
Dwi'm yn licio dweud gormod achos dwi ddim yn licio clywed am stwff dwi heb eu darllen nhw...
Fel overview faswn i'n dweud bod o am ddyn sydd angen mynd nôl i fyw efo'i dad o sydd mewn iechyd gwael iawn ac mae o'n disgyn mewn i berthynas efo gofalwr ei dad... ac mae o'n dysgu ffordd wahanol i fyw i ffwrdd o social media a stwff fel yna ac mae o'n mynd ar siwrnai.
Sut wyt ti'n mynd o gwmpas dy waith?
Dwi'n codi am 5am weithiau [i sgwennu], dwi'n licio bod mewn routine - ac mae hynny jest yn rhan o fywyd i fi eniwe. Dwi'n cadw routine da ond efo plant ifanc hefyd dwi jest yn teimlo os alla' i wneud awr a hanner cyn iddyn nhw ddeffro, wel, mae hynny'n bonws. Unwaith maen nhw i fyny mae'n amhosib.
Be' fydd gwobr Not the Booker Prize... miloedd o bunnoedd?
Mae posibilrwydd wna i ennill myg... ond dwi ddim yn sgwennu am arian tydi o ddim mor bwysig i fi yn bersonol.
Mae'n rhywbeth neis. Mae'n alternative i'r Booker. Ella rhyw ddiwrnod wna i ennill The Booker ond am rŵan dwi'n ddigon hapus efo Not The Booker.
Ac mae yna gwmnïau ffilm wedi dangos diddordeb yn y gwaith hefyd?
Oes - mae hynny wedi codi dros yr wythnos i 10 diwrnod diwetha', 'da ni wedi cael dipyn bach o ddiddordeb. Does dim byd alla i wneud jest mater o adael iddyn nhw ddarllen o a gweld sut maen nhw'n teimlo a gobeithio bydd rhywun isio fo...
Fyddai'n rhywbeth diddorol i weld teledu neu ffilm, rhywbeth i edrych ymlaen ato gobeithio.
Hefyd o ddiddordeb: