Ateb y Galw: Y Prifardd Ifor ap Glyn

  • Cyhoeddwyd
Ifor ap Glyn

Y Prifardd Ifor ap Glyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Robat Arwyn yr wythnos diwethaf.

Ifor yw Bardd Cenedlaethol Cymru, ac mae wedi dal y swydd ers 2016. Mae wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - yn 1999 a 2013.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Capel Willesden Green yn Llundain. Roedd fy mrawd bach yn cael ei fedyddio, yn y sêt fawr hefo Mam a 'Nhad. Ro'n i fod i aros hefo Mam-gu a Tad-cu yn sêt y teulu, ond penderfynais i sleifio allan o'r sêt ac ymuno â'r sioe yn y pen blaen.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Katherine Squires, yn yr ysgol gynradd yn Pinner. Pam wnes i ddim gofyn iddi ddawnsio yn y disgo ddiwedd y tymor olaf?

(Os ydi hi wedi dysgu Cymraeg a symud i Gymru, efallai bydd hyn yn sioc iddi!)

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Roedd gofyn 'ydach chi'n cynganeddu?' i'r englynwr enwog T. Arfon Williams, yn sicr yn un ohonyn nhw.

Be' oedd yn waeth, ro'n i'n gwybod yn iawn fod T. Arfon yn arloeswr ym maes barddoniaeth - jest mod i heb ddeall mai ef oedd y gŵr hynaws oedd yn smocio cetyn wrth fy ymyl! Roedd hynny'n 'dalentog o dwp' fel basa Dic Jones yn ei ddweud.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Adeg cynhebrwng fy nhad yng nghyfraith. Dyn annwyl, boneddigaidd a chraff - a chwmni difyr bob tro. Colled mawr ar ei ôl.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Na. (Rhag ofn fod Mam yn darllen.)

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd noson 18fed Medi 1997 yn eitha' cofiadwy. Erbyn oriau mân y bore ro'n i wedi mynd â rhywun i'r adran ddamweiniau yn y Royal Infirmary yng Nghaerdydd - ac yno, drws nesa' i rywun yn gwaedu ar y llawr ac yn sgwennu pethau digon bygythiol yn ei waed ei hun, y clywais i ganlyniad terfynol y refferendwm.

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n gallu chwarae Deutschland über Alles ar fy nhrwyn. Wir yr.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Unrhyw emyn wedi'i chanu'n dda - boed mewn cymanfa neu dafarn. Un o'r pethau dwi'n ei golli'n fawr ydi canu mewn tafarn - dwi'n cofio sesiwn ym Mar Llywelyn unwaith, hefo Twm Morys ac Einir Pantyrhwch, lle dechreuon ni harmoneiddio emynau Cymraeg yn null Dwyrain Ewrop. Roedd yn wefreiddiol ar y pryd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Tafarn y Blac yng Nghaernarfon - dwi'n siŵr o weld rhywun dwi'n 'nabod yno. Neu fynwent Ystrad Fflur - dwi'n 'nabod lot o bobl yn fanno hefyd.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon - lleoliad ambell i sgwrs bwysig (a chân), siŵr o fod...

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mae gen i gymaint o hoff lyfrau mae'n anodd cynnig un - ond mae Marged gan T. Glynne Davies yn glasur sydd wedi mynd yn angof. Ar hyn o bryd dwi'n darllen A Chip Shop in Poznań a - Blodeugerdd 2020 - ac yn cael blas ar y ddau.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Geraint Løvgreen, Li Bai ac Eric Ngalle. Dwi'n siŵr y basan nhw'n cyd-dynnu. Basen ni'n yfed rownds o'r gwledydd gwahanol - bai jiu, matango a Brenin Enlli, rhannu cerddi a thrafod pêl-droed.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dywedodd Meic Stephens unwaith fod gen i 'ddychymyg seicadelig' - o'n i'n eitha chyffd am hynna. Dyna ddau air, ond dwnim am y trydydd - 'wombat' hwyrach?

Disgrifiad o’r llun,

Coron seicadelig i fynd gyda'r dychymyg seicadelig?

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gorffen pacio ar gyfer y trip i'r lleuad a chofio gadael nodyn i ganslo'r llefrith.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Un o nghyndadau fu'n gweithio'n chwarel neu'n porthmona. Mae'r ddau beth wedi cydio yn fy nychymyg i erioed - ond basa'n haws gen i gerdded pellteroedd y porthmon na gweithio ar wyneb y graig. Dwi'm yn or-hoff o uchder!

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

clare e. potter

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw