Buddugoliaeth ysgubol i Ferched Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd ymgais Merched Cymru i gyrraedd pencampwriaeth Euro 2021 hwb gyda buddugoliaeth gyffyrddus yn erbyn Ynysoedd y Ffaro yng Nghasnewydd.
4 -0 oedd y sgôr yn y diwedd, ond roedd yna nerfusrwydd ar yr egwyl gan mai dim ond un gôl o fantais oedd gan Gymru bryd hynny er iddyn nhw reoli'r gêm yn llwyr.
Prin fod golwr Cymru, Laura O'Sullivan, wedi cyffwrdd y bêl yn yr hanner cyntaf, ond er gwaetha' sawl cyfle da roedd rhaid disgwyl tan 38 munud cyn i Gymru daro cefn y rhwyd.
Dyna pryd y daeth pas gyfrwys Jess Fishlock o hyd i Helen Ward yn y cwrt, ac fe rwydodd hithau'n daclus.
Roedd hi'n stori wahanol wedi'r egwyl.
Wedi 58 munud fe sgoriodd Tash Harding yr ail gyda'i throed chwith cyn ychwanegu'r drydedd gyda'i phen dri munud yn ddiweddarach.
Gan i Harding sgorio tair yn erbyn Ynysoedd y Ffaro y tro diwethaf i'w ddwy wlad gwrdd, maen nhw'n amlwg yn un o'i hoff wrthwynebwyr.
Lily Woodham gafodd y bedwaredd i Gymru, a'i gôl gyntaf hi i'r tîm cenedlaethol, wedi 67 munud, ac roedd y pwyntiau yn gwbl ddiogel erbyn hynny.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Cymru'n dal yn ail i Norwy yn eu grŵp, ond mae'r gemau cyfartal gafon nhw yn erbyn Gogledd Iwerddon wedi costio'n ddrud.
Er hynny mae'r gêm nesaf yn gwbl allweddol wrth i Norwy ymweld â Chaerdydd nos Fawrth, 27 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019