Cwblhau'r gwaith o adfer 'wal Tryweryn'

  • Cyhoeddwyd
Wal Trwyeryn wedi ei gwblhau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd technegau traddodiadol eu defnyddio gan grefftwyr lleol wrth iddyn nhw atgyweirio'r ddwy wal

Mae'r gwaith o drwsio ac adfer 'wal eiconig' Cofiwch Dryweryn, a'i slogan, wedi cael ei gwblhau.

Nos Iau bu'r artist o Geredigion, Rwth Jên, yn ail-beintio'r darlun coch a gwyn ar y wal, sydd wedi cael ei atgyweirio dros yr wythnosau diwethaf.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r wal, sydd ar ochr ffordd yr A487 i'r de o Aberystwyth, wedi cael ei difrodi sawl gwaith.

"Dros y degawdau mae 'na gymaint o fersiynau wedi bod," meddai Rwth Jên, "ac wrth gwrs ma pobl wedi ychwanegu, a'r hyn a'r llall.

"Yr un gwreiddiol gan Meic Stephens, wel ysgrifen gwyn ar gefndir y garreg o'dd hwnnw yn unig.

"Yr un ma pobl yn cydnabod, a'r un sydd wedi cael ei ail-gynhyrchu yn rhyngwladol yw'r cefndir coch a'r ysgrifen gwyn. Felly 'dy ni'n mynd gyda hynny."

"Fi'n treio peidio gor-feddwl y peth, wy'n trio'i wneud e yn ysbryd y peth, sef darn o graffiti yw e, mai'r neges sydd yn bwysig, nid yr arddull.

Ffynhonnell y llun, Catrin MS Davies
Disgrifiad o’r llun,

Llif-oleadau funud olaf i'r artist Rwth Jên gwblhau'r gwaith peintio yn Llanrhystud

"Pan holodd Elin [Jones] i fi os fydden i'n fodlon cymeryd rhan yn y prosiect, wrth gwrs o'n i'n mynd i neidio ar y cyfle.

"Ond goffes i feddwl am y peth, rhyw eiliad fach, achos mae graffiti oedd e'n y bôn. Felly ma cael comisiwn i wneud rh'wbeth sydd mor enwog fel darn o graffiti - a dwi'n ffan mawr o graffiti a gwaith celf cyhoeddus 'ta beth - nes i feddwl 'os na wna i fe neith rhywun arall e'. Felly mae e'n fraint ca'l neud e.

"Wy'n hoffi meddwl am y wal, bod hi'n berchen i bawb, mae'n ddarn o gelf cyhoeddus."

Disgrifiad,

'Gobeithio bydd pobl yn dangos mwy o barch ato fe nawr'

Ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Gwener dywedodd Elin Jones AS Ceredigion bod y neges - ynghyd â'r wal - cyn bwysiced.

"Yn ysbryd gwreiddiol beth wnaeth Meic Stephens flynyddoedd yn ôl fe aeth Rwth Jên ati i beintio'r wal dros nos, braidd yn annisgwyl, ond fe wnaeth hi gymryd yr ysbryd hynny o wneud y graffiti dros nos, ac erbyn bore ma fe fyddai unrhyw un oedd yn gyrru drwy Llanrhystud yn gweld 'Cofiwch Dryweryn' ar y wal unwaith eto.

"Y neges sy'n bwysig, wrth gwrs, a nid y graffiti, a drwy gyd-ddigwyddiad mae e'n union 55 mlynedd i'r wythnos ers i faer Lerpwl agor Llyn Celyn, ac felly ma hynny'n ein atgoffa ni o hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rwth Jên bod ail-beintio'r wal wedi bod yn 'fraint'

Y perchennog newydd, Dilys Davies, sydd wedi ariannu'r holl waith atgyweirio, a dywedodd drwy'r brynu'r safle mai'r bwriad oedd trosglwyddo'r murlun eiconig i ofal elusen er mwyn sicrhau ei bod "yn hollol saff am byth".

"Ry'n ni eisiau gwarchod y wal, a gwarchod y neges," meddai Elin Jones, "ond fel 'wedodd Rwth Jên darn o graffiti byw yw'r wal yma wedi bod erioed. Do'dd dim un ohonan ni o'r farn bod angen rhyw blastig o gwmpas y wal.

"Ry'n ni'n annog i bobl Cymru beidio a pheintio dros y wal yma, ac fe fyddwn ni'n cymryd camau i ddiogelu'r wal mewn ffurf camerâu diogelwch hefyd."