Archesgob yn galw ar wleidyddion i 'roi gobaith i bobl'

  • Cyhoeddwyd
Y Parchedicaf John Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Archesgob nad oedd y cyfnod clo yn annisgwyl ond ei fod serch hynny yn siomedig

Mae Archesgob Cymru wedi galw ar i arweinwyr gwleidyddol "roi gobaith i bobl" wrth i'r pandemig barhau.

Roedd yna alwad hefyd ar i'r cyhoedd "ymateb yn gall" i'r cyfnod clo diweddaraf ac i "feddwl am eraill".

Mewn cyfweliad eang â BBC Cymru mynegodd y Parchedicaf John Davies ei obaith y gellir dathlu'r Nadolig "ar ryw ffurf" eleni.

Rhannodd ei bryder y gallai mater tymor hir digartrefedd gael ei anghofio oherwydd yr argyfwng.

'Hawdd iawn beirniadu'

Yn ei gyfweliad estynedig cyntaf ers mis Mawrth dywedodd yr Archesgob wrth raglen Politics Wales y BBC: "Mae'n hawdd iawn, iawn beirniadu pobl sydd mewn llywodraeth ar ba bynnag lefel pan fydd pethau'n anodd.

"Rwy'n credu bod pawb ar bob lefel wir yn ceisio gwneud eu gorau glas mewn amgylchiadau hynod annisgwyl ac anodd.

"Y cyfan y byddwn i eisiau yw apelio ar lywodraethau, ar ba bynnag lefel - lleol, cenedlaethol, y DU - bob amser i weithredu'n gyfiawn, a gweithredu gyda phobl sydd â'r angen mwyaf ar flaen eu meddyliau, er mwyn deall pa mor anodd a brawychus gall fod i fod yn y sefyllfa yr ydym yn gweld cymaint o bobl ynddi."

Rhybuddiodd fod yr argyfwng presennol yn effeithio ar "eu lles corfforol, eu lles meddyliol a'u hunan-barch" a bod hynny'n gallu gadael pobl yn teimlo'n "eithaf anobeithiol".

"Mae'n debyg mai un o swyddi'r Eglwys yw dweud bob amser, 'rhowch obaith i bobl os gwelwch yn dda'," ychwanegodd.

'Meddyliwch am bobl eraill'

Dywedodd yr Archesgob nad oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfnod clo cenedlaethol newydd "yn annisgwyl" ond ei fod serch hynny yn "siomedig".

"Y cyfan y byddwn yn gobeithio yw y bydd pobl yn ymateb yn synhwyrol i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud - y byddant yn deall nad yw'r Llywodraeth yn gwneud hyn i wneud bywyd yn anodd i bobl," meddai.

"Mae'n ei wneud mewn ymateb rwy'n siŵr i'r hyn maen nhw'n credu yw'r cyngor gorau ac er budd pawb, felly rhowch sylw, byddwch yn ofalus, a meddyliwch am bobl eraill."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r galw am fanciau bwyd wedi cynyddu yn ystod y pandemig

Dywedodd yr Archesgob ei bod yn "siom" bod eglwysi wedi gorfod cau unwaith eto oherwydd y cyfyngiadau diweddaraf.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen, gobeithio, at y cyfnod hwn o bythefnos yn cael effaith, yn dangos ei fod wedi gweithio, ac yna efallai y byddwn ni'n gallu cael rhywfaint o obaith y gellir dathlu'r Nadolig ar ryw ffurf," ychwanegodd.

'Cadw digartrefedd ar yr agenda'

Cafodd y cyfweliad ei gynnal yng nghanolfan deuluol Sant Ioan yn Aberhonddu, sy'n gartref i fanc bwyd lleol sy'n gwasanaethu'r dref a'r ardal ehangach.

"Mae'r union ffaith ein bod yn gweld banciau bwyd ledled y Deyrnas Unedig yn dangos i mi fod rhywbeth anghyfiawn yn rhywle yn y ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud," meddai'r Archesgob, gan ychwanegu bod nifer y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi cynyddu yn ystod y pandemig.

Mae'r Archesgob yn gadeirydd hefyd ar yr elusen ddigartrefedd Housing Justice Cymru a soniodd am ei bryder y gall "argyfwng fel sydd gennym ar hyn o bryd fod mewn perygl o wneud i bobl anghofio, neu eu harwain yn eithaf damweiniol i anghofio'r problemau tymor hir y mae pobl eraill yn eu hwynebu".

"Felly rydw i eisiau cadw digartrefedd ar yr agenda - nad yw wedi ei anghofio," meddai.

Dywedodd yr Archesgob iddo gael ei "daro" gan y modd y daethpwyd o hyd i arian yn ystod y pandemig i fynd i'r afael â thrafferthion economaidd, "felly a fyddai modd dod o hyd i arian ar gyfer pethau fel darparu ar gyfer y digartref yn yr hir dymor?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Archesgob bod ganddo bryder y bydd digartrefedd yn cael ei anghofio yn sgil y pandemig

Ynghyd â'i gyd-arweinwyr Anglicanaidd ledled y DU ymyrrodd yr Archesgob mewn ffrae wleidyddol yr wythnos ddiwethaf dros Fesur Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU.

Mae Gweinidogion y DU wedi cydnabod bod y mesur yn torri cyfraith ryngwladol mewn "ffordd benodol a chyfyngedig" ond yn dweud bod hynny'n angenrheidiol i amddiffyn y DU.

Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn y Financial Times ddydd Llun fe rybuddiodd arweinwyr yr Eglwys fod y mesur yn gosod "cynsail trychinebus".

'Perffaith gywir i arweinwyr crefyddol'

Pan ofynnwyd iddo a ydy hi'n briodol i'r Eglwys ymyrryd yn y fath fodd, dywedodd yr Archesgob: "Ydy."

"Fel rydw i wedi atgoffa pobl yn y gorffennol, os ydych chi'n darllen proffwydi'r Hen Destament, os ydych chi'n talu sylw gofalus i ddysgeidiaeth Iesu, yna fe welwch y proffwydi, ac Iesu - yn rheolaidd - yn galw i gyfrif nid yn unig arweinwyr crefyddol eu hamser, ond hefyd yr arweinwyr gwleidyddol.

"Ac felly mae mynegi pryder am gyfeiriad, rwy'n credu, yn berffaith gywir i arweinwyr crefyddol.

"Mae'r rhai sy'n dweud nad yw crefydd a gwleidyddiaeth yn cymysgu yn bod yn rhy ddetholus, dwi'n meddwl, yn y ffordd maen nhw'n darllen eu hysgrythur.

"Rwy'n credu bod gennym yr hawl i allu dweud,'meddyliwch yn fwy gofalus os gwelwch yn dda'."

Politics Wales, BBC One Wales, 10:00, 25 Hydref.