Digartrefedd Caerdydd: 'Gwersi wedi'u dysgu yn y cyfnod clo'

  • Cyhoeddwyd
digartrefeddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 'na wersi wedi'u dysgu yn ystod y cyfnod clo ar sut i fynd i'r afael â digartrefedd, yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd.

Ond mae Huw Thomas yn dweud bod angen mwy o arian ar y cyngor i allu sicrhau'r un lefel o gefnogaeth ar gyfer y dyfodol.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi £50m ar ddigartrefedd ledled Cymru yn sgil y pandemig.

Ar ddechrau'r cyfnod clo fe gafodd dau westy eu defnyddio ar gyfer pobl oedd angen llety diogel yn y brifddinas, ac mae'r gwasanaeth cwnsela i'r digartref wedi mwy na dyblu.

Cafodd Newyddion S4C fynediad i un o'r gwestai er mwyn clywed straeon y rhai sy'n byw yno.

"Mae alcohol wedi dinistrio fi, mae e wedi dinistrio fy mywyd," meddai un dyn nad oedd am gael ei enwi.

"Mae gen i bancreatitis, cirrhosis ar yr afu, dwi'n chwydu bob bore.

"[Yn y gwesty] ry'ch chi'n cael eich stafell eich hun, teledu, gwely.

"Ers bod fan hyn dwi wedi bod yn gwneud lot gyda gwasanaethau iechyd meddwl, gyda'r uned addictions.

"Os nad oedden i yma, fyddai ddim o'r gefnogaeth yma gen i. Dwi ar y rhestr nawr i fynd mewn i detox - dwi'n barod amdani."

Cyn y pandemig, roedd gweld pobl yn byw ar y stryd yn llun cyfarwydd. Am y pedair blynedd ddiwetha' yn olynol, cynyddu wnaeth y nifer ar hyd strydoedd Cymru.

Newid byd

Ond ym mis Mawrth, newidiodd hynny, gyda coronafeirws yn gatalydd am newid radical yng Nghaerdydd a ledled y wlad.

Roedd cael ystafell unigol mewn gwesty yn newid byd i rai. Dywedodd un dyn, sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am 20 mlynedd, ei fod nawr yn brwydro'n erbyn ei ddibyniaeth ar heroin.

"Ers i mi fod yma, dwi wedi dechrau mynd i goleg… dwi'n gwneud fy TGAU Mathemateg a Saesneg," meddai.

"Os na fydden i yma, bydden i'n mynd rownd mewn cylchoedd os dwi'n onest."

'Popeth mewn un lle'

Ar y dechrau, roedd staff y cyngor yn delio gyda bron i 200 o bobl oedd angen llety.

Erbyn hyn mae tua 1,000 o bobl yn byw yma, ac mae'r gwasanaeth cwnsela yn cyrraedd mwy o bobl nag erioed - o 25 o bobl cyn y pandemig, i 60 erbyn heddiw.

"O'n i'n dod mewn wythnos diwetha' i weld dau berson ac wedyn o'n i'n bwmpo mewn i dri arall doeddwn i ddim wedi gweld ers sbel," meddai Rhys John, sy'n gwnselydd gyda Chyngor Caerdydd.

"Felly nes i allu cael sgwrs efo nhw am sut mae pethau'n mynd a [gofyn] os ydyn nhw eisiau mynd nôl i'r gwasanaeth.

"Mae cael popeth mewn un lle felly, fod y gwasanaethau yn gallu dod a gweithio gyda nhw yn bwysig hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Huw Thomas fod cyn lleied â phump yn cysgu ar strydoedd Caerdydd yn ystod y pandemig

Y bwriad ar hyn o bryd yw cau y gwesty yma a'i roi yn ôl i'r perchnogion erbyn y Nadolig.

Ar gyfer y bobl sy'n byw fan hyn, mae'r cyngor wedi troi bloc o fflatiau myfyrwyr yn y ddinas yn 46 fflat hunan-gynhwysol, gyda rhwydwaith o wasanaethau i gefnogi trigolion yno.

Mae bwriad hefyd i addasu tai cyffredin yn llety pwrpasol.

Nifer y digartref 'lawr i 12'

I Gyngor Caerdydd, mae'r gwasanaethau ychwanegol yn costio dros £2.6m bob blwyddyn.

Mae'r cyngor wedi gofyn am fwy o arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na fydd Caerdydd yn gweld mwy o bobl yn dychwelyd i'r strydoedd.

"Rhyw flwyddyn yn ôl cyn y pandemig, roedd tua 80 o bobl ar gyfartaledd yn cysgu ar y strydoedd yn ddyddiol," meddai Huw Thomas, arweinydd y cyngor.

"Ar hyn o bryd, y ffigwr yna, mae e lawr i ryw 12. Yn ystod y pandemig, roedd e cyn ised â phump o unigolion ar y strydoedd.

"Ry'n ni wedi dysgu gwersi yn ystod y pandemig am sut i ymyrryd yn well.

"Felly dwi'n gobeithio, alla'i ddim dweud 100%, ond dwi'n gobeithio fod gennym ni'r platfform nawr a hefyd yn sgil y buddsoddiad, y cyfleusterau i sicrhau nad ydyn ni'n mynd nôl i beth oedd gennym ni cyn y pandemig."