Cartref plant: 'Gwrthwynebu cyn clywed y ffeithiau'
- Cyhoeddwyd
Mae'r bobl sy'n gwrthwynebu cartref newydd i blant yn Abertawe wedi "syrthio i'r trap" o gwyno cyn cael gwybod y ffeithiau, yn ôl ymgyrchydd.
Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi caniatâd i droi tŷ ar Heol Salem, Plas-marl, yn gartref i bedwar o blant a phobl ifanc 8-18 oed.
Ond mae rhai yn gwrthwynebu'r bwriad oherwydd ofnau y gallai'r tŷ fod yn darged i droseddwyr llinellau cyffuriau [county lines], ac y gallai gael effaith "gatastroffig" ar yr ardal.
Gofynnodd Dan White, ymgyrchydd ar ran pobl ddifreintiedig ar draws y DU, os oedd y gwrthwynebwyr yn bod yn "snobs digydymdeimlad".
Cwmni preifat True Focus Care wnaeth y cais i newid defnydd y tŷ chwe llofft yn lety ar gyfer pedwar o bobl ifanc a dau weithiwr cefnogol.
Dywedodd True Focus Care mai'r bwriad oedd rhoi cyfle i bedwar unigolyn sydd ddim yn gallu cael gofal gan eu rhieni am wahanol resymau, i gyd-fyw a "gwneud gweithgareddau yn yr ardal a dod yn rhan o'r gymuned".
Cafwyd 464 o sylwadau o blaid ac yn erbyn y cynllun ar wefan y cyngor, a chafodd taflen yn gwrthwynebu ei dosbarthu.
Denodd deiseb yn erbyn y bwriad 56 o lofnodion.
Yn ôl y ddeiseb gallai'r cartref fod yn "gatastroffig" i'r ardal, a gallai plant o ardaloedd eraill ddod â phroblemau llinellau cyffuriau i'r plant sy'n byw yma eisoes, a thargedu'r henoed.
Mae'r ddeiseb yn rhestru 12 o bryderon, yn cynnwys: risg i bobl sy'n byw mewn cartref gofal gyferbyn; problemau parcio; dim llawer o le tu allan i'r bobl ifanc fydd yn byw yn y cartref; sŵn yn ei gwneud hi'n anodd i bobl sy'n gweithio o'u cartrefi yn ystod pandemig Covid-19, a phryder y bydd prisiau tai yn gostwng.
Rhybuddiodd y ddeiseb hefyd fod "plant ifanc eisoes yn crwydro'r ardal dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol. Dylanwad mawr ar blant bregus sydd wedi dioddef yn barod."
'Dim cydymdeimlad'
Dangoswyd llun o'r daflen sydd wedi cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol i'r ymgyrchydd hawliau, Dan White.
"Roedden ni'n rieni maeth i ferch gyda phroblemau ymddygiad a thrawma emosiynol," meddai.
"Ei mam naturiol oedd wrth wraidd ei holl broblemau. Cafodd ei hesgeleuso.
"Sgwn i sut y byddai'n teimlo wrth weld hwn [y daflen]? Fod rhai pobl yn snobs gwag, a digydymdeimlad?"
Galwodd yr ymateb yn "arswydus" gan ychwanegu: "Mae pwy bynnag a ysgrifennodd hwn wedi syrthio i'r trap o beidio ymchwilio i weld pwy ydy'r bobl yma. Dim cydymdeimlad.
"Does bosib eu bod nhw'n haeddu ymchwiliad?"
Dywedodd y Gymdeithas Ofal Maeth Gymunedol ei fod yn siomedig i weld hysbysiadau fel hyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Dim tosturi, dim dealltwriaeth o blant sydd mewn gofal heb ddim bai arnyn nhw.
"Rydym yn credu ym mhob un plentyn sydd mewn gofal, a dyna maen nhw ei angen, rhywun i gredu ynddyn nhw."
Dywedodd y Cynghorydd Mike White, sy'n cynrychioli ardal Glandŵr, fod y prosiect yn cael ei ystyried yn un addas gan swyddogion cynllunio.
Ond os oedd gan drigolion unrhyw bryderon, byddai'n eu cefnogi ac yn ymchwilio iddynt, meddai.
Mae cartrefi preswyl i blant wedi bod yn destun trafod yn Abertawe ers dros flwyddyn.
Clywodd cynghorwyr mewn cyfarfod ym mis Mai 2019, fod prisiau eiddo cymharol rad yn y sir yn denu darparwyr llety preifat i lefydd fel Abertawe.
Sefyllfa gymhleth
Ar y pryd roedd 13 o gartrefi wedi eu cofrestru gydag o leiaf bedwar arall i fod i agor yn y 12 mis canlynol.
Dywedodd adroddiad gerbron cynghorwyr fod gan Abertawe fwy o gartrefi plant nag oedd eu hangen, tra bod mwy o alw mewn ardaloedd fel Caerdydd, lle'r oedd prisiau eiddo yn uwch,
"Mae'n dirwedd gymhleth," meddai Julie Thomas, pennaeth gwasanaethau plant a theuluoedd ar y pryd.
"Mae'r rhain i gyd yn blant bregus," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2020