Cwpan FA Lloegr: Solihull Moors 4-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cwpan FA Lloegr oedd y rheswm dros i'r ddau dîm o'r Gynghrair Genedlaethol wynebu ei gilydd a cholli wnaeth y Dreigiau o bedair gôl i ddim.
Aeth Solihull ar y blaen drwy Joe Sbarra yn yr hanner cyntaf ac yna ildiodd y Dreigiau gic o'r smotyn drwy i Elliott Durrell dynnu Mitch Hancox i lawr ac fe sgoriodd Adam Rooney.
Ymhen ychydig funudau fe sgoriodd Cameron Archer - eilydd Solihull ac roedd hi'n dair i ddim.
Mynd o ddrwg i waeth wnaeth hi wedi hynny gydag wrth i Sbarra sgorio ail gôl gan ddod â chyfanswm goliau Solihull i bedair.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2020