'Beibl 1620 wnaeth gyflwyno geiriau newydd i'r Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bedwar can mlynedd ers cyhoeddi Beibl 1620 ac yn ôl ysgolheigion, cyfieithydd y fersiwn yma o'r Beibl - John Davies, Mallwyd - fu'n gyfrifol am gyflwyno'r Gymraeg i fyd dysg.
I nifer William Morgan yw cyfieithydd y Beibl ond fersiwn 1588 yw ei Feibl ef. Yn 1620 daeth fersiwn ddiwygiedig gan y rheithor John Davies a'r Beibl hwn oedd yn cael ei ddefnyddio ar draws Cymru tan fersiwn 1988.
Yn aml mae'n cael ei adnabod fel Beibl Richard Parry am mai ef oedd yr Esgob ar y pryd ac mae rhai yn teimlo nad yw John Davies wedi cael digon o gydnabyddiaeth am ei waith.
Yn ôl yr Athro Ceri Davies o Brifysgol Abertawe, John Davies "a gyflwynodd y Gymraeg i fyd dysg nid yn unig yng Nghymru ond ym Mhrydain. Roedd e hefyd am weld y Gymraeg ar gynfas Ewropeaidd," meddai.
'Difater, ffansïo a glanhawr'
Beibl John Davies sydd wedi cyflwyno nifer o eiriau Cymraeg i'n geirfa - geiriau fel amhurdeb, ariangarwch, blasusfwyd, caniedydd, coelgrefydd, chwithig (yn yr ystyr llaw chwith), dealltwriaeth, difater, dudew, dyfalbarhau, efengylaidd elusengar, ffansïo, glanhawr, prydlon, pwrpasol ac ymateb.
Dywed Andrew Hawke, Golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru bod dros ddwy fil o ddyfyniadau yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yn dod o Feibl John Davies a "beth sydd yn ddiddorol am hynny yw bod dros bedwar cant ohonyn nhw yn digwydd am y tro cyntaf yn y Gymraeg".
"Wrth gwrs mae'n bosibl fod y geiriau eisoes yn bodoli ond bod nhw ddim wedi cael eu cofnodi mewn llawysgrifau cynt ac felly mae Beibl 1620 yn ffynhonnell holl bwysig.
"Mae'n amlwg fod John Davies mor gyfarwydd â llenyddiaeth Gymraeg fel fod ganddo storfa anferth o eiriau wrth ei benelin. Ond eto roedd e'n gyfarwydd iawn â'r iaith gyfoes ac felly yn gwneud ei orau i wneud y testun yn ddealladwy ynghyd â bod yn fanwl gywir wrth drosi o'r testun gwreiddiol a oedd yn Hebraeg a Groeg.
"Mae'n amlwg fod John Davies am roi mwy o urddas i'r iaith. Mae William Morgan yn defnyddio tithe a finne ond mae John Davies yn defnyddio finnau a tithau," ychwanega Mr Hawke.
Mae John Davies yn awdur llyfr gramadeg a geiriadur Cymraeg dyblyg Cymraeg - Lladin a Lladin - Cymraeg.
"Mae ei eiriadur hefyd yn gloddfa wirioneddol werthfawr ac ynddo mae o leiaf 3,600 o enghreifftiau lle mae gair Cymraeg yn digwydd gyntaf erioed."
'Cynnyrch rhyfeddol iawn'
Yr hyn sy'n drawiadol, medd Wyn James o Brifysgol Caerdydd yw bod pobl fel William Salesbury, William Morgan a John Davies Mallwyd ymhlith rhai o ysgolheigion gorau'r cyfnod ond yn hytrach na dewis gyrfa ysgolheigaidd ryngwladol fe ddewisont gyflwyno Gair Duw yn eu hiaith eu hunain.
"Be mae John Davies yn ei wneud," meddai, "yw symud yr arddull yn nes at yr iaith lenyddol. Fe wnaeth e ffurfioli'r peth i gyfeiriad yr iaith lenyddol safonol.
"Fe wnaeth Beibl 1620 sicrhau fod iaith safonol dda i'w chlywed bob wythnos ym mhob rhan o Gymru - felly mae cynnyrch y cyfnod yna bedwar can mlynedd yn ôl yn rhyfeddol iawn."
Dathlu Beibl 1620
Dywedodd Meleri Cray o Gymdeithas y Beibl ei bod wedi bod yn fwriad i gynnal gwahanol weithgareddau i nodi pedwar can mlynedd cyhoeddi'r Beibl ond bod haint coronafeirws wedi atal y trefniadau.
Yn lle hynny lansiwyd Beibl.net i bobl ifanc ynghyd a 30 o ffilmiau byrion ond a hithau yn Sul y Beibl mae'n dweud bod cyfraniad Beibl 1620 yn amhrisiadwy.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd Symposiwm Beibl 1620 yn cael ei gynnal yn rhithiol ym mis Tachwedd.
Bydd mwy ar Feibl 1620 yn rhifyn dydd Sul, 25 Hydref o Bwrw Golwg
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd14 Medi 2019