'Dim sioeau West End mawr nes bydd brechlyn'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan y Mileniwm CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llai na 20% o incwm rhai canolfannau, fel Canolfan y Mileniwm, yn dod o'r pwrs cyhoeddus

Efallai na fydd Canolfan Mileniwm Cymru yn llwyfannu sioeau'r 'West End' nes bod brechlyn coronafeirws ar gael, yn ôl y cyfarwyddwr artistig.

Dywedodd Graeme Farrow fod y ganolfan gelfyddydau genedlaethol yn gobeithio cynnal "digwyddiadau prawf" gyda chynulleidfaoedd bach ym mis Ionawr 2021, ar ôl cau'i drysau ym mis Mawrth.

Ond dywedodd y byddai'r digwyddiadau'n cynnwys tua 150 o bobl yn eistedd wrth fyrddau cabaret wedi'u gwasgaru ar draws y prif lwyfan.

Dywedodd Mr Farrow fod trafodaethau wedi cychwyn gyda Llywodraeth Cymru i ganiatáu i'r digwyddiadau prawf gael eu cynnal.

Derbyniodd Canolfan Mileniwm Cymru £3.9 miliwn gan gronfa Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi dosbarthu cyfanswm o £27.5 miliwn i sefydliadau celfyddydol ledled y wlad i fynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig ar y sector.

Cynllunio ar gyfer cynulleidfa fach

Caeodd y ganolfan yn llwyr ar 17 Mawrth, gyda sioeau cerdd gan gynnwys The Lion King a Phantom of the Opera ymhlith y rhai i gael eu canslo.

Amcangyfrifodd y ganolfan byddai'n colli £20 miliwn mewn incwm masnachol eleni.

Wrth ymweld â phrif lwyfan Theatr Donald Gordon am y tro cyntaf ers iddi gau, dywedodd Graeme Farrow wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn obeithiol y byddai perfformiadau'n dychwelyd mewn ychydig fisoedd.

"Rydyn ni eisiau cynnal cyfres o ddigwyddiadau prawf gyda chynulleidfaoedd", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Graeme Farrow ydy Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru

"Yr hyn yr hoffem ni ei wneud yw i gynnal y sioeau bach gyda'r gynulleidfa wedi eistedd wrth fyrddau ar y llwyfan. Oherwydd bod y llwyfan yn enfawr, gallwn ni eistedd pobl dau fetr ar wahân, mewn seddi cabaret.

"Rydyn ni'n gwybod sut fyddwn ni'n gweithredu system profi ac olrhain, rydyn ni'n gwybod sut y byddem yn gosod y seddi ar gyfer grwpiau sy' mewn swigod, ac rydyn ni'n credu y gallwn ni ddechrau profi hynny o fis Ionawr gyda'r gynulleidfa ar y llwyfan a nid mas fan hyn, yn y seddi arferol.

"Oherwydd erbyn yr haf neu'r hydref, heb frechlyn, ni fyddem yn gallu troi switsh nôl ymlaen a chael 1,800 o bobl yn ôl yn yr awditoriwm hwn.

"Mae angen i ni allu cynllunio ar gyfer hynny o ddechrau'r flwyddyn newydd, gyda chynulleidfaoedd bach. Yna mae angen i ni brofi 250, 500, 1,000 o bobl cyn y gallwn ni hyd yn oed feddwl am ailagor ar gyfer y sioeau mawr.

Ychwanegodd ei fod yn credu y byddai hynny'n digwydd ym mis Mai ar y cynharaf, ond y gallai fod yn hwyrach yn y flwyddyn na hynny.

"Byddwn yn cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd, a'r hyn y mae'r arian yn ei roi inni yw'r gallu i wneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Argraff artist/Cyngor Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cynllun i weddnewid Theatr Clwyd sêl bendith ym mis Mehefin

'Wedi creu sioeau yn barod'

Mae theatrau eraill hefyd yn arbrofi tra bod cyfyngiadau COVID yn eu hatal rhag ailddechrau sioeau traddodiadol.

Mae Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug wedi cynnal perfformiadau awyr agored ac wedi dechrau arbrofi gyda digwyddiadau ar-lein, tra bod Theatr y Sherman yng Nghaerdydd wedi creu cyfres o ddramâu sain gan awduron newydd a rhai profiadol.

Ond er bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn atal sioeau theatr rhag ailagor, dywedodd cyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd, Tamara Harvey, ei bod yn gobeithio y byddai'r rheolau'n newid ar ôl y cyfnod cloi newydd.

Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Y peth rhwystredig i ni yw ein bod ni wedi creu sioeau ar gyfer tymor yr hydref, sydd yn barod i fynd.

"Mae Theatr Emlyn Williams wedi'i rhannu a'i gosod allan yn hyfryd fel gofod cabaret gyda seddi sy'n parchu pellter cymdeithasol. Ac o ddechrau mis Hydref, ry'n ni wedi cael yr holl ddigwyddiadau hynny yn barod i fynd, ond dyw ni ddim wedi cael gwneud hynny.

"Rydyn ni'n gallu dod â phobl i'n sinema ni, felly rydyn ni'n gwybod y gallwn ni wneud hynny'n ddiogel, a lle mae tafarndai a bwytai yn dal i gael aros ar agor mae hi wedi teimlo'n rhwystredig iawn.

"Rydyn ni'n dda iawn, mewn theatrau, am gadw pobl yn ddiogel ac rydyn ni'n dda iawn am gadw nhw yn eu seddi. Felly byddem wrth ein bodd yn gallu gwneud hynny eto."

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi galw am reolau tebyg ar gyfer digwyddiadau byw sy'n bodoli eisoes ym maes lletygarwch.

Dywedodd Graeme Farrow: "Gallwn reoli'r amgylchedd hwn yn dda iawn, ac rydym yn arbenigwyr ar wneud hynny. Mae gennym gyfleusterau gwych, ac rydym yn cadw pobl yn ddiogel bob dydd pan ry'n ni ar agor.

"Gadewch i ni gael rhywfaint o gydraddoldeb rhwng theatrau a pherfformiadau byw, a sinemâu, tafarndai, bwytai a lletygarwch. Oherwydd mae yna rai pethau sydd ddim yn taro fi, a phobl eraill sy'n gweithio yn y sector, fel rheolau sy'n deg - megis sut y gall sinemâu agor ond nid rhywle fel hwn?

Disgrifiad o’r llun,

Mae 1,900 o seddi yn Theatr Donald Gordon, sef prif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru

"Hyd yn oed pe baem yn rhoi 50 o bobl yn y seddi yn y theatr hwn, fe allwn ni eu cadw 10 metr ar wahân o'i gilydd. Ond does dim caniatâd i wneud hynny.

"Felly rwy'n credu bod angen i ni symud y tu hwnt i hynny, ac rwy'n credu bod angen i ni ddechrau gofyn y cwestiwn 'Pam lai?' yn hytrach na 'Pam?'."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gohirio ein rhaglen o ddigwyddiadau peilot oedd yn cynnwys gwylwyr mewn digwyddiadau awyr agored a dan do - mae'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn cael y flaenoriaeth.

"Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd iawn i'r sector a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth tuag at ailagor yn ddiogel pan fydd yr amser yn iawn."