Cwm Taf Morgannwg: 69 o farwolaethau mewn ysbytai
- Cyhoeddwyd
Cofnodwyd 12 marwolaeth yn gysylltiedig â coronafeirws yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg gan ddod â'r cyfanswm yno i 69 hyd yma.
Bu farw'r cleifion yn ysbytai cyffredinol y bwrdd, yn Llantrisant (47), Merthyr Tudful (11), a Phen-y-bont ar Ogwr (11).
Dywed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod 366 o achosion yn gysylltiedig â'r haint yn yr ysbytai cyffredinol ac yn y ddwy ysbyty gymunedol yn y Rhondda a Maesteg.
Mae'r ffigyrau'n cyfeirio at achosion yn gysylltiedig â'r haint, ac nid o angenrheidrwydd yn uniongyrchol oherwydd Covid-19.
Nawfed drwy Gymru a Lloegr
Gyda chyfanswm o 353 o farwolaethau, mae Rhondda Cynon Taf yn nawfed ar y rhestr o farwolaethau Covid-19 fesul 100,000 o bobl drwy Gymru a Lloegr.
Yn seiliedig ar brofion positif Covid-19, mae'r ardal hefyd ymhlith y llefydd lle mae'r haint yn cynyddu gyflymaf yn y DU.
Dywedodd cyfarwyddwr y bwrdd iechyd, Nick Lyons: "Mae'r haint yn parhau i godi ar raddfa ofidus yn ein cymunedau.
"Mae i fyny i bob unigolyn gymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif, a glynu at gyfyngiadau'r cyfnod clo 17 diwrnod.
"Trwy wneud hyn byddwch yn ein helpu i gael y feirws dan reolaeth a diogelu pawb, yn cynnwys y mwyaf bregus yn ein cymunedau."
Galw am ymchwiliad
Mewn ymateb i'r ffigyrau mae llefarydd seneddol y Ceidwadwyr ar iechyd, Andrew RT Davies, wedi ailadrodd ei alwad am ymchwiliad.
"Mae marwolaethau'n gysylltiedig â dal yr haint mewn ysbytai yn troi'n sgandal yn ystod yr ail don," meddai.
Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu ffigyrau wythnosol ar gyfer yr wythnos hyd at 16 Hydref, sy'n dangos bod 15 o farwolaethau mewn ysbytai ardal Cwm Taf Morgannwg, 10 yn rhanbarth Aneurin Bevan, pump yr un yn ardaloedd Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro, a thair marwolaeth yn ardal Bae Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2020