Teyrngedau staff Ysbyty Maelor i nyrs 'ysbrydoledig'
- Cyhoeddwyd
Mae staff Ysbyty Maelor Wrecsam wedi rhoi teyrngedau i nyrs 46 oed a fu farw ar ôl cael ei daro gan gar wrth gerdded tu allan i'r ysbyty.
Roedd Wilbert Llobrera wedi gweithio yn yr ysbyty ers bron naw mlynedd, gan "chwarae rhan allweddol", yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mewn sicrhau bod llawdriniaeth wroleg yn cael ei chynnal yn ystod y pandemig.
Mae dyn lleol 32 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi'r farwolaeth wedi'r gwrthdrawiad yn Ffordd Ddyfrllyd 'chydig cyn 20:30 nos Iau.
"Roedd Wil yn nyrs theatr eithriadol, blaengar," meddai'r Llawfeddyg Wroleg Ymgynghorol, Yr Athro Iqbal Shergill, "yn cael ei hoffi'n fawr gan holl aelodau'r tîm, a gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog.
"Roedd gyda ni ddyfodol gwych o'n blaenau, a bydd ei golli yn golled i gleifion wroleg Wrecsam yn y tymor hir.
'Caredig, gofalgar, gweithgar, bonheddig'
"Yn ystod yr argyfwng Covid-19 presennol, roedd yn allweddol o ran ein helpu i gadw gwasanaethau llawdriniaeth wroleg i fynd, ac roedd ar fin ymgymryd â chyflwyno technoleg newydd triniaeth canser y prostad yn Ysbyty Maelor yn fuan."
Roedd Mr Llobrera yn "garedig, gofalgar, gweithgar ac yn ŵr bonheddig", yn ôl Rheolwr Theatrau Ysbyty Maelor, Dave Bevan.
"Bydd yn cael ei golli gyda thristwch gan ei holl deulu theatr."
Wrth gydymdeimlo gyda pherthnasau, ffrindiau a chydweithwyr Mr Llobrera, dywedodd uwch reolwyr y bwrdd iechyd bod "hwn yn gyfnod anodd i'n staff ac rydym yn sicrhau eu bod yn cael yr holl gefngoath sydd angen".
Mae cronfa dorfol, dolen allanol er cof am Mr Llobrera eisoes wedi codi dros £15,000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2020