Nwyddau angenrheidiol: Risg i staff wrth orfod 'dyfarnu'
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr archfarchnadoedd yn cael eu rhoi dan fygythiad trwy orfod dyfarnu pa nwyddau all bobl eu prynu.
Yn ôl y rheolau diweddaraf, sy'n parhau mewn grym tan 9 Tachwedd, yr unig nwyddau sydd i fod i gael eu gwerthu yw'r rhai hynny sy'n cael eu hystyried yn angenrheidiol.
Ond dywed Consortiwm Manwerthu Cymru (CMC) fod gweithwyr siopau yn gorfod dyfarnu pa nwyddau y gall pobl eu prynu neu ddim.
Yn dilyn nifer o gwynion am y polisi, yn cynnwys deiseb gyda 67,000 o enwau, bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhestr o'r hyn sy'n cael ei gyfri'n angenrheidiol.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau y gall cwsmeriaid ofyn am gael prynu eitemau eraill mewn amgylchiadau arbennig.
Yng nghynhadledd newyddion y llywodraeth ddydd Mercher, pwysleisiodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, fod gan siopau a chwsmeriaid "gyfrifoldeb" i beidio prynu na gwerthu nwyddau dianghenraid yn ystod y cyfnod clo presennol.
"Mae 'na gyfrifoldeb ar yr unigolyn i beidio gadael ei gartref er mwyn prynu rhywbeth sydd ddim yn angenrheidiol," meddai, "a chyfrifoldeb ar y manwerthwr i beidio gwerthu pethau sydd ddim yn angenrheidiol."
'Nid yw hyn yn dderbyniol'
Mewn cyfweliad gyda'r BBC yn gynharach dywedodd pennaeth CMC, Sara Jones, fod gweithwyr siopau'n "cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd dros ben".
Dywedodd fod staff yn gorfod penderfynu os oedd hi'n iawn i gwsmer brynu rhywbeth oedd ddim yn cael ei gyfri'n angenrheidiol ai peidio.
"A bod yn blwmp ac yn blaen, dydy gorfod penderfynu ar yr angen hwnnw ddim yn dderbyniol.
"Mae'n teimlo i ni fel bod staff yn gorfod dyfarnu'r holl system yma.
"Rydym yn gwybod y bydd y polisi yma yn rhoi staff dan fygythiad."
Ychwanegodd y byddai CMC yn dilyn y rheolau, ond eu bod "yn hynod siomedig".
Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o Senedd Cymru, Russell George, ei fod yn poeni am weithwyr siop a chwsmeriaid.
"Mae'r camau y mae'r llywodraeth wedi eu cymryd, yn enwedig wrth ddisgwyl i weithwyr siopau blismona'r polisi i bob pwrpas, yn anghywir. Dydy system felly ddim yn deg.
"Nid yw'n deg ar weithwyr siopau ac nid yw'n deg i ddisgwyl i gwsmeriaid roi gwybodaeth breifat. Dwi'n credu ei fod yn ymyrryd â phreifatrwydd pobl."
Penderfynodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gyflwyno'r rheol yn y lle cyntaf mewn ymateb i sylwadau gan Mr George, ar ôl iddo ddweud ei bod yn annheg i orfodi siopau annibynnol sy'n gwerthu dillad a nwyddau eraill i gau tra bod archfarchnadoedd yn dal i allu gwerthu eitemau o'r fath.
Ond yn siarad fore Mercher, dywedodd Mr George y dylai'r llywodraeth ganiatáu i bob siop agor ac i archfarchnadoedd agor pob un o'u hadrannau "ac i ganiatáu i gwsmeriaid benderfynu beth sy'n iawn drostynt eu hunain, a beth sy'n angenrheidiol iddyn nhw".
Cyfyngiadau i 'achub bywydau'
Dywedodd AS Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ei fod yn poeni y byddai gweithwyr yn cael eu cam-drin.
"Dwi ddim yn meddwl y dylai gweithwyr siopau fod yn y sefyllfa yna," meddai.
"Ond dwi'n credu fod Russell George yn anghywir i ddweud y dylai pob siop gael hawl i agor oherwydd dydy hynny ddim yn awgrymu cyfnod clo ac aros gartref."
Dywedodd y llywodraeth y byddai'r egwyddor o gyfyngu nwyddau sydd ddim yn angenrheidiol yn aros tan ddiwedd y cyfnod clo ar 9 Tachwedd.
"Rydym yn pwysleisio fod y cyfyngiadau mewn grym er mwyn rhwystro coronafeirws rhag lledaenu ac i achub bywydau," meddai llefarydd.
"Gofynnwn i'r cyhoedd barhau i gefnogi'r ymdrech drwy gyfyngu ar siwrneiau a siopa sydd ddim yn angenrheidiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020