Ystyried deddf newydd am yr hawl i ryddhau adar hela

  • Cyhoeddwyd
ffesant

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth newydd o gwmpas yr hawl i ryddhau adar hela.

Daw hynny'n dilyn adolygiad gan yr RSPB sy'n dweud bod methiannau o fewn y gymuned saethu mewn mynd i'r afael ag effaith y gweithgareddau ar yr amgylchedd.

Yn Glaspwll, ger Machynlleth, mae rhai yn gwrthwynebu rhyddhau 40,000 o ffesantod ger Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).

Mae'r rheiny sy'n cefnogi'r fenter newydd yn dweud y daw'r busnes a budd "economaidd a chymdeithasol" i'r ardal.

Effaith ar fywyd gwyllt

Yn byw yn agos at y fenter, mae Owen Shiers yn cwestiynu'r diffyg rheoleiddio o fewn y maes.

"Os ydych chi am godi sied a rhoi 40,000 o ieir ynddo fe, mae'n rhaid i chi fynd trwy broses hir o gael caniatâd cynllunio a gwneud asesiad amgylcheddol," meddai.

"S'dim rhaid i chi wneud hynny os ydych chi'n rhyddhau 40,000 o ffesantod. Dwi'n teimlo bod 'na ddim proses mewn lle o edrych ar yr effeithiau ar yr ardaloedd yma.

"Dyw'r ymgyrch yma ddim yn un wrth-saethu, neu'n wrth-ffarmio nac yn un wrth-fusnes.

"Mae'n ymgyrch gan bobl sy'n gofidio am stad byd natur yma a'r effaith mae'r saethu yn ei gael ar amgylchedd, ar fywyd gwyllt a'r rhywogaethau prin sydd yma yng Nghwm Llyfnant."

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod swyddogion wedi gweld ffesantod ar eu safle ond "nad oes angen caniatâd" ar fusnes i ryddhau adar "y tu allan neu'n agos" at Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cafodd fferm Cwm Rhaiadr ei gwerthu i dirfeddiannwr preifat yn 2019 gyda'r safle yn cael ei drosglwyddo ar brydles i gwmni Cambrian Birds, cwmni saethu adar hela.

Mae Ilan Jones hefyd yn byw yng Nglaspwll ac yn croesawu'r fenter newydd a'i "chyfraniad i'r ardal".

'Budd economaidd'

"Mae'n mynd i gynnal teulu neu ddau sy'n mynd i fod yn byw a gweithio yno'n llawn amser, mae hynny'n mynd i gyfrannu at gymdeithas y cwm felly," meddai.

"Nid yn unig hynny, mi fydd y busnes yn cyflogi contractwyr lleol i gwblhau gwaith ar y fferm ac ar y tir ac yn mynd i ddefnyddio cyflenwyr lleol.

"Hefyd, fel mae'r busnes yn datblygu bydd saethwyr yn dod a thipyn o arian i'r ardal gan aros mewn gwestai lleol a gwario eu pres yn lleol hefyd.

"Dydy saethu ddim at ddant bawb, mae hynny yn anochel, ond o ran yr effaith amgylcheddol fel tyllu'r traciau, mae hyn yn digwydd gan ffermwyr ers canrifoedd.

"Maen nhw'n gallu edrych yn blaen ond gydag amser bydd y tir yn croenio drosodd ac yn gweddu nôl fewn i'r amgylchedd."

Disgrifiad o’r llun,

Ardal Cwm Rhaiadr

Yn ôl RSPB Cymru mae "tystiolaeth bod effaith amgylcheddol negyddol sylweddol" ar fywyd gwyllt arall sy'n deillio'n uniongyrchol ac anuniongyrchol o ryddhau adar hela, gyda hynny yn cael ei gydnabod gan rai yn y gymuned saethu.

"Credwn fod yn rhaid i'r diwydiant saethu wneud mwy i godi safonau amgylcheddol a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r rheolau presennol," meddai'r elusen.

"Os yw hyn yn golygu hawliau cryfach i Gyfoeth Naturiol Cymru i amddiffyn ardaloedd SSSI, rydym ni yn cefnogi hynny."

'Ymwybodol o bryderon'

Mae'r diwydiant saethu yn cyfrannu £75m i Economi Cymru bob blwyddyn gyda BASC, sef y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Brydeinig, yn annog aelodau i gadw at y Cod Arfer Saethu Da.

Maen nhw'n dweud: "Bwriad BASC mewn cyd-gomisiynu ymchwil i'r maes yw cael dealltwriaeth o sut mae rhyddhau adar hela, a rheoli'r rheiny, yn gallu cael effaith negyddol a chadarnhaol ar yr amgylchedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o bryderon ynghylch rhyddhau ffesantod yn agos at Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a'r effeithiau amgylcheddol posibl ar y safleoedd pwysig hyn.

"Rydym yn gweithio gyda CNC i gasglu a dadansoddi tystiolaeth, ac rydym yn ystyried opsiynau i fynd i'r afael â nhw os yn briodol, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i sicrhau trwydded cyn rhyddhau adar hela yng nghefn gwlad."