'Camau pendant' sydd i gyfri am nifer uwch o ddirwyon

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ar ddyletswydd ar yr A40
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ar ddyletswydd ar yr A40 yn nyddiau cynnar y cyfyngiadau teithio

Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys yn dweud mai'r prif reswm taw'r llu sydd wedi rhoi'r nifer uchaf o ddirwyon Covid-19 trwy'r DU yw'r ffaith iddyn nhw weithredu'n bendant mewn ymateb i'r pandemig.

Fe wnaeth Dafydd Llywelyn ei sylwadau ar un o raglenni BBC Cymru ar drothwy newid allweddol yn y cyfyngiadau teithio.

O ddydd Llun ymlaen, am y tro cyntaf ers 23 Mawrth, fydd ddim rhaid i bobl Cymru aros o fewn pum milltir.

Ond er bod rhyddid i deithio i unrhyw le, fydd dim hawl i aros yng nghartref unrhyw un arall, oni bai fod aelodau'r ddau gartref wedi ffurfio un 'aelwyd estynedig'.

Dirwyo'n "gam olaf"

Dywedodd Mr Llywelyn wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales mai "lleiafrif bach" sydd wedi bod yn torri'r rheolau.

"Mae'r heddlu, o'r dechrau'n deg, wedi ceisio dilyn trywydd pedwar cymal... trafod, egluro, annog ac yna gorfodi fel cam olaf," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dafydd Llywelyn fod pobl Lloegr heb gael negeseuon digon clir fod sefyllfa Cymru'n wahanol

Hyd at 22 Mehefin, roedd Heddlu Dyfed Powys wedi rhoi 1,651 o ddirwyon.

Mae hynny bron i 13 gwaith nifer dirwyon Heddlu Gwent, sef 128.

Roedd yna 464 o ddirwyon yn ardal Heddlu Gogledd Cymru a 315 yn rhanbarth Heddlu'r De.

Yn Lloegr, Heddlu Gogledd Sir Efrog oedd â'r nifer uchaf - 1,122 - a Heddlu'r Weinyddiaeth Amddiffyn oedd â'r nifer lleiaf, sef 35.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Llywelyn: "Yn sicr yn wythnosau cyntaf y cyfnod clo, roedd yna gryn dipyn o drafod ac egluro i bobl."

Ond roedd pobl yn parhau i deithio "cannoedd o filltiroedd" i'r rhanbarth dros fis wedi i'r cyfyngiadau ddod i rym, gan arwain at "lawer o hysbysebion cosb benodedig".

Ychwanegodd: "Rydym wedi gweld llawer o bobl yn dod dros y ffin o Loegr ac, i raddau, rwy'n teimlo rhywfaint o gydymdeimlad â nhw oherwydd dyw negeseuon llywodraeth ganolog y DU heb fod mor glir â hynny ynghylch y gwahaniaethau yn rheolau gwledydd gwahanol y DU."

"Fe allai rhai holi pam fod Heddlu Dyfed-Powys Police - un o heddluoedd lleiaf Lloegr a Chymru, er y mwyaf yn ddaearyddol - wedi rhoi mwy o hysbysebion cosb nag unrhyw lu arall.

"Mae llawer o hynny i lawr i weithredu pendant."