'Mwy o blismona ar y ffiniau' i orfodi'r cyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog yn dweud y bydd lluoedd heddlu Cymru yn darparu rhagor o swyddogion ar y ffyrdd pan fydd y gwaharddiad ar deithio yma o ardaloedd sydd â lefelau uchel Covid-19 yn dod i rym.
Ni fydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd o'r fath yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i Gymru o 18:00 ddydd Gwener.
Yn siarad ar BBC Breakfast dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi trafod y gwaharddiad gyda'r lluoedd heddlu a'r comisiynwyr heddlu a throsedd.
Ond mae Ffederasiwn yr Heddlu wedi mynegi pryder a fydd modd plismona'r rheolau newydd.
Dirwyon yn 'opsiwn olaf'
Dywedodd Mr Drakeford y bydd yr heddlu yn "ymddwyn yn yr un modd ag yn gynharach yn y pandemig pan oedd cyfyngiadau ar deithio mewn grym".
"Bydd mwy o blismona ar y prif ffyrdd i mewn i Gymru," meddai.
Ychwanegodd mai dirwyon fyddai'r "opsiwn olaf, nid yr opsiwn cyntaf" a'i bod yn bosib y bydd meddalwedd sy'n darllen plât rhifau ceir yn cael ei ddefnyddio i adnabod pobl sy'n teithio o ardaloedd ble mae cyfradd uchel o achosion.
Ond dywedodd Mr Drakeford ei fod yn credu y bydd "y rhan fwyaf o bobl eisiau gwneud y peth iawn".
"Yr hyn ry'n ni eisiau ei wneud ydy atgyfnerthu'r neges bod hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus, ac na ddylen nhw fod yn teithio o ardaloedd ble mae'r gyfradd achosion yn uchel i ardaloedd ble mae'n isel," meddai.
"Dydy pobl yng Nghymru sydd mewn ardaloedd â chyfradd uchel ddim yn gallu teithio allan o'r ardaloedd hynny, ac ymdrech yw hyn i ymestyn hynny i bobl tu hwnt i Gymru."
Ychwanegodd Mr Drakeford nad yw'n deall safbwynt Prif Weinidog y DU, Boris Johnson ar y mater, gyda Llywodraeth y DU yn cynghori pobl i beidio teithio yn hytrach na gorfodi hynny.
"Dydy'r heddlu ddim yn gallu gweithredu ar sail cyngor," meddai Mr Drakeford.
"Fe allai'r Prif Weinidog gysylltu â mi heddiw, ond hyd yma dydw i ddim wedi cael unrhyw lwyddiant gydag ef."
'Dim modd plismona hyn'
Ond dywedodd pennaeth Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru, Mark Bleasdale na fydd unrhyw heddweision ychwanegol ar gael i blismona'r rheolau newydd.
"Ar yr wyneb, does dim modd plismona hyn oherwydd ei bod mor anodd adnabod o ble mae pobl yn dod ac i ble maen nhw'n mynd," meddai wrth BBC Radio Wales.
"Rhain fydd yr un heddweision sy'n gorfod ymateb i ddigwyddiadau o ddydd i ddydd.
"Ein safbwynt ni ydy nad ydyn ni'n gwybod sut y bydd yn cael ei orfodi - does dim mwy ar gael."
Dywedodd AS Ceidwadol Brycheiniog a Sir Faesyfed, Fay Jones bod y rheol newydd yn "gam anffodus iawn i fusnesau", yn enwedig yn ei hardal hi.
"Mae gennym ni economi sy'n seiliedig ar dwristiaeth a lletygarwch, ac yn ôl yr ebyst rydw i wedi'i dderbyn mae'n debyg bod pobl o bob rhan o'r wlad yn canslo eu harchebion ddoe am nad oedd pobl yn deall beth oedd y Prif Weinidog yn ei ddweud," meddai wrth BBC Radio Wales.
"Fe wnaeth y cyhoeddiad, heb lawer o fanylion, ac mae'n ergyd enfawr arall i'r economi wledig.
Ychwanegodd nad ydy Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tystiolaeth sy'n dangos fod ymwelwyr o ardaloedd sydd â chyfradd uchel o achosion Covid-19 wedi trosglwyddo'r feirws i gefn gwlad Cymru.
Ond mae Plaid Cymru yn dweud i'r gwrthwyneb, ac yn beirniadu'r llywodraeth am fod yn araf i atal ymwelwyr o ardaloedd o'r fath.
Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Rhun Ap Iorwerth: "Rwy'n credu y dylai hyn fod wedi'i wneud amser maith yn ôl, dylen ni gael mwy o eglurder amdano, a dylen ni gael mwy o wybodaeth am gefnogaeth i fusnesau.
"Mae o [plismona] wedi bod yn bryder i'r heddlu ac i nifer ohonom trwy gydol y pandemig.
"Rwy'n cofio nôl ym mis Mawrth, Ebrill a Mai pan oedd pobl yn torri'r rheolau ar beidio teithio yn bellach na'u hardal leol - fe wnaeth yr heddlu yn wych i sicrhau bod hynny'n cael ei orfodi mor effeithiol â phosib.
"Ar ddiwedd y dydd, rydych chi angen y rheolau mewn lle, angen y canllawiau clir, ac wedyn mae'n rhaid i bobl gadw at hynny neu mae gennych chi gosbau ariannol a phŵer gan yr heddlu i sicrhau bod pobl yn cadw at y rheolau cymaint â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020