Y Chwe Gwlad: Cymru 10-14 Yr Alban
- Cyhoeddwyd
Doedd hi ddim yn glasur o gêm ym Mharc y Scarlets brynhawn Sadwrn, a doedd yr amodau gwyntog ddim o gymorth i lif y chwarae chwaith.
Fe ddangosodd chwaraewyr yr Alban eu gwerthfawrogiad i Alun Wyn Jones cyn y chwiban gyntaf, ac yntau yn dathlu'r gamp o dderbyn y mwyaf o gapiau rhyngwladol gan unrhyw chwaraewr erioed.
Finn Russell hawliodd y pwyntiau cynnar, gan roi'r ymwelwyr ar y blaen gyda'i gic gosb wedi naw o funudau.
Fe arweiniodd camgymeriadau a diffyg disgyblaeth Cymru at yr Alban yn rheoli'r chwarae am gyfnod, ond wedi hanner awr fe frwydrodd y crysau cochion yn ôl.
Amodau heriol
Daeth cais cyntaf y prynhawn i Rhys Carre, prop Gleision Caerdydd, wedi iddo rwygo ei ffordd drwy amddiffyn yr Alban rhwng y pyst.
Ychwanegodd Dan Biggar dri phwynt hawdd at y sgôr.
Ychydig cyn hanner amser fe gafodd James Davies ei gosbi am fod oddi ar ei draed, ac fe wnaeth eilydd yr Alban, Adam Hastings lwyddo gyda'i ymgais gyntaf rhwng y pyst.
Ar yr hanner, dim ond pwynt o fantais oedd gan Gymru ac fe fyddai'r ymwelwyr wedi bod yn ddigon bodlon gyda'u perfformiad yn ystod y 40 munud cyntaf, er yr amodau heriol.
Cafodd Biggar ei eilyddio wedi dim ond dau funud o'r ail hanner, gyda Rhys Patchell yn cymryd ei le.
Roedd dechrau'r 40 munud olaf yn debyg i ddechrau'r hanner cyntaf - gyda'r Alban yn hawlio digon o diriogaeth ond yn methu manteisio ar eu cyfleoedd.
Daeth Wyn Jones ymlaen yn lle Rhys Carre wedi 49 munud, gan ennill sgrym yn syth.
Dechreuodd Cymru ailafael yn y gêm am gyfnod, ond unwaith eto ychydig iawn o lif oedd i'r chwarae, gyda'r ddwy ochr yn colli cyfleoedd.
Ond wedi 61 munud fe wthiodd yr ymwelwyr eu ffordd dros y llinell gais - Stuart McInally yn rhoi'r Alban ar y blaen, cyn i Adam Hastings fethu ag ychwanegu'r tri phwynt.
11-7 oedd mantais yr Alban wedi 63 o funudau.
Dri munud yn ddiweddarach fe lwyddodd Cymru i gwtogi mantais y ymwelwyr i bwynt - cic gosb lwyddiannus i Leigh Halfpenny y tro hwn.
Roedd yr Alban yn parhau i bwyso yn ystod chwarter olaf y gêm, ac fe gawsant eu gwobr haeddiannol gyda dau funud i fynd - cic gosb wedi trosedd gan Jonathan Davies.
Llwyddodd Stuart Hogg gyda'i ymgais, gan hawlio tri phwynt arall - a buddugoliaeth i'r ymwelwyr o 10-14.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2020