Bale yn ôl yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau Tachwedd

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Gareth Bale ei gôl gyntaf ers dychwelyd i Spurs yn erbyn Brighton ddydd Sul

Mae ymosodwr Tottenham Hotspur, Gareth Bale yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer y tair gêm ym mis Tachwedd, ble bydd y dirprwy reolwr Robert Page wrth y llyw.

Dydy'r rheolwr, Ryan Giggs ddim yn arwain y tîm am y tro wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Mae Giggs wedi addo gweithio gyda'r heddlu ynglŷn â'r digwyddiad.

Roedd chwaraewr canol cae Juventus, Aaron Ramsey hefyd wedi'i gynnwys er iddo orfod gadael y maes gydag anaf yn erbyn Ferencvaros nos Fercher.

Yn ddiweddarach, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod Ramsey wedi tynnu'n ôl o'r garfan.

Owain Fôn Williams yn dychwelyd

Bydd Cymru'n herio'r Unol Daleithiau mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Liberty ar 12 Tachwedd cyn chwarae dwy gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Gweriniaeth Iwerddon fydd yr ymwelwyr ar 15 Tachwedd, cyn i'r Ffindir deithio i'r brifddinas ar 18 Tachwedd.

Roedd Bale yn absennol o'r garfan fis diwethaf wrth iddo weithio ar ei ffitrwydd ar ôl ailymuno â Spurs ar fenthyg

Ond mae wedi bod yn aelod rheolaidd o'r tîm ers hynny ac fe sgoriodd ei gôl gyntaf ers dychwelyd i'r clwb oddi ar y fainc yn erbyn Brighton ddydd Sul.

Owain Fôn WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain Fôn Williams bellach yn chwarae i Dunfermline ym Mhencampwriaeth Yr Alban

Mae dau o golwyr arferol Cymru - Wayne Hennessey ac Adam Davies - yn absennol gydag anafiadau, sy'n golygu bod golwr Dunfermline, Owain Fôn Williams yn dychwelyd i'r garfan.

Mae'n bosib y bydd dau o chwaraewyr Casnewydd - sydd ar frig Adran Dau - yn ennill eu capiau cyntaf, sef y chwaraewr canol cae Josh Sheehan a'r golwr Tom King.

Mae'n bosib y bydd Brennan Johnson, sydd ar fenthyg yn Lincoln o Nottingham Forest, yn ennill ei gap cyntaf hefyd.

Presentational grey line

Y garfan yn llawn

Danny Ward, Owain Fôn Williams, Tom King; Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Chris Mepham, Tom Lockyer, Joe Rodon, Neco Williams, James Lawrence, Ben Cabango, Rhys Norrington-Davies; Aaron Ramsey, Johnny Williams, Harry Wilson, David Brooks, Daniel James, Matt Smith, Joe Morrell, Dylan Levitt, Brennan Johnson, Josh Sheehan; Gareth Bale, Tom Lawrence, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Rabbi Matondo.