Cynghrair y Cenhedloedd: Bwlgaria 0-1 Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe sgoriodd yr eilydd Jonny Williams gôl hwyr - ei gyntaf dros ei wlad - i gipio buddugoliaeth i Gymru yn erbyn Bwlgaria yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd.
Mae'r triphwynt yn golygu bod Cymru yn ôl ar frig grŵp B4, yn parhau'n ddiguro ac heb ildio gôl mewn pedair gêm yn y gystadleuaeth.
Roedd y rheolwr Ryan Giggs eisoes yn wynebu talcen caled gyda chynifer o chwaraewyr ymosodol ddim ar gael iddo.
Roedd Gareth Bale, Aaron Ramsey, David Brooks a Hal Robson-Kanu yn absennol oherwydd anaf, tra bod Kieffer Moore yn methu'r gêm oherwydd gwaharddiad yn dilyn ei gerdyn melyn yn Nulyn ddydd Sul.
Ond un o'r aelodau mwyaf profiadol - ag yntau ond newydd droi'n 27 oed - oedd yr arwr yn stadiwm Vasil Levski yn Soffia nos Fercher.
Mewn hanner cyntaf di-fflach, roedd Cymru'n rheoli'r meddiant ond yn wastraffus o giciau gosod.
Peniad Tyler Roberts - un gwan ac o bellter - oedd yr unig ergyd ar y targed cyn yr egwyl.
Roedd yna gardiau melyn i Harry Wilson a Dan James, a gafodd ei dynnu i ffwrdd yn fuan wedi ei drosedd ar Cicinho, gyda Rabbi Matondo yn cymryd ei le.
Daeth cyfle i Rhys Norrington-Davies - a oedd yn ennill ei gap cyntaf dros ei wlad - yn gynnar yn yr ail hanner ond aeth ei ergyd ymhell heibio'r gôl.
Daeth cyfle hefyd i Matondo gyda llai na 20 munud yn weddill - asgellwr Schalke yn methu'r gôl o lai na phum llath ar ôl croesiad da gan Tyler Roberts.
Ond gyda phum munud o'r 90 yn weddill, fe sgoriodd Jonny Williams - a enillodd ei gap cyntaf yn 2013 - gôl fuddugol wych.
Gwaith da gan Neco Williams ar y dde, cyn croesi, a Jonny 'Joniesta' Williams yn cyfeirio'r bêl ar yr hanner foli i gefn y rhwyd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bu'n rhaid i Wayne Hennessey - y golwr yn ennill cap rhif 94 ar y noson - adael y cae gydag anaf i'w goes ar ôl 79 munud o'r chwarae.
Ond fe lwyddodd yr ymwelwyr i ddal eu gafael a hawlio buddugoliaeth arall dros y Bwlgariaid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020