Nodi diwrnod y cofio 'gwahanol' yn ystod pandemig
- Cyhoeddwyd
Cafodd Sul y Cofio ei nodi ledled Cymru ddydd Sul, ond roedd nifer o ddigwyddiadau yn wahanol iawn oherwydd y pandemig coronafirws.
Roedd rheolau y cyfnod clo yn caniatáu i seremonïau coffáu ddigwydd y tu allan, gydag uchafswm o 30 o bobl yn bresennol.
Penderfynodd sawl ardal hepgor seremoni neu wasanaeth ffurfiol, roedd eraill wedi rhannu seremoni fer dros y we, a rhai cymunedau wedi enwebu unigolion i osod torch ar eu rhan.
Cafodd gwasanaeth cenedlaethol ei gynnal yng Nghaerdydd, lle roedd rhai gwahoddedigion yn bresennol, ac fe gafodd y digwyddiad ei ddarlledu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bu digwyddiadau hefyd yn Y Barri, Llanelli, Llangefni a Wrecsam ymhlith ardaloedd eraill, ac roedd trefnwyr yn pwysleisio nad oedd modd mynychu heb wahoddiad.
Ymhlith yr ardaloedd oedd wedi penderfynu peidio cynnal digwyddiad cyhoeddus reodd Conwy - yn hytrach fe wnaethon nhw ddarlledu fideo o'r maer yn gosod torch.
Dywedodd Maer Conwy Emma Leighton-Jones: "Roedd y cyfan yn anodd. Mae'r rhan fwyaf yn y gymuned wedi bod yn gefnogol ond mae rhai wedi holi ai dyma'r penderfyniad iawn.
"Eleni roedd yn rhaid i ni osgoi digwyddiad torfol er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
'Meddwl am y cyfnod anghyffredin'
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Mae hon yn flwyddyn anghyffredin a bydd y modd y byddwn yn coffáu Sul y Cofio yn wahanol hefyd.
"Fel arfer mae cannoedd ohonom yn bresennol ond eleni dim ond ychydig ohonom fydd yn bresennol.
"Ond eleni mae'n fwy pwysig ein bod yn oedi am eiliad a meddwl am y cyfnod anghyffredin hwn."
Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Ry'n ni'n cydymdrechu ac yn wynebu'r cyfnod hwn gyda'n gilydd a ddydd Sul byddwn yn cofio am ymdrechion y gorffennol a'r presennol.
"Ry'n ni'n gofyn i bawb barchu Sul y Cofio ond mewn ffyrdd sy'n parchu'r argyfwng presennol.
"Bob dydd, rwy'n meddwl nad ydym erioed wedi wynebu amgylchiadau fel hyn o'r blaen ac mae Sul y Cofio yn ddiwrnod a fydd yn tanlinellu hynny."
Pawb i gofio'n bersonol
Roedd cyngor tref Castell-nedd yn apelio ar bobl i osod pabi yn eu ffenestri ac ym Mro Morgannwg fe gafodd rhai adeiladau, gan gynnwys y twnnel sy'n mynd mewn i'r Barri, eu goleuo yn goch.
Fe wnaeth y Lleng Brydeinig hefyd annog pobl i fod yn greadigol wrth iddynt gofio.
Dywedodd Ant Metcalfe, rheolwr y Lleng yng Nghymru: "Er ei bod yn hynod siomedig y bydd digwyddiadau coffa yn wahanol eleni, rydyn yn deall bod penderfyniad wedi cael ei wneud a hynny i amddiffyn lles ac iechyd pawb sydd ynghlwm a'r digwyddiadau coffa.
"Mae modd i'r cyhoedd fod yn rhan o'r cyfan drwy gofio yn eu ffordd bersonol eu hunain - efallai wrth edrych ar y gwasanaeth ar y teledu neu oedi am ddwy funud o dawelwch ar drothwy'r drws."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2018