Cyhuddo chwech o bobl o herwgipio plentyn yn Sir Fôn

  • Cyhoeddwyd
Cyttir Lane, BangorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n chwilio am dystion a welodd ddau gar penodol yn ardal Cyttir Lane tu ôl i Tesco, Bangor, dydd Mercher 4 Tachwedd

Mae chwech o bobl a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â digwyddiad ar Ynys Môn ddydd Mercher wedi cael eu cyhuddo o herwgipio plentyn.

Mae un ohonyn nhw hefyd wedi'i gyhuddo o fod ag arf miniog yn ei feddiant.

Yn ôl yr heddlu cafodd y plentyn ei gipio yn Ynys Môn ddydd Mercher cyn cael ei ddarganfod yn ddianaf yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw tua 320km i ffwrdd yn Swydd Northampton.

Fe gadarnhaodd Heddlu'r Gogledd nos Sadwrn bod y chwech wedi cael eu cadw yn y ddalfa ac y byddan nhw'n ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun 9 Tachwedd.

Apêl am luniau dash cam

Fore Sadwrn fe wnaeth swyddogion sy'n ymchwilio i'r digwyddiad apelio am dystion.

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Ffordd Caergybi, Gaerwen rhwng 15:45 a 16:00 ddydd Mercher 4 Tachwedd, a hefyd ag unrhyw un a allai fod wedi bod ar Cyttir Lane, yng nghefn Tesco ym Mangor, rhwng 15:50 a 16:10 yr un diwrnod.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Bell o Heddlu Gogledd Cymru: "Diolch byth, daethpwyd o hyd i'r plentyn yn ddiogel gan ein cydweithwyr yn Swydd Northampton.

"Mae hwn yn ymchwiliad cyflym ac rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd Citroen Picasso lliw arian yn Gaerwen neu Cyttir Lane i gysylltu â ni.

"Rydym hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld Ford Galaxy arian yn ardal Cyttir Lane.

"Rydyn ni'n annog unrhyw un a oedd yn y naill ardal neu'r llall tua'r un amser, ac a allai fod â lluniau cam dash neu deledu cylch cyfyng preifat, i gysylltu."

Gofynnir i unrhyw un a all gynorthwyo gyda'r ymchwiliad gysylltu â swyddogion yn Heddlu Gogledd Cymru ar 101.