Bwrdd iechyd yn troi at ysbytai maes i ryddhau pwysau

  • Cyhoeddwyd
CanolfanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Selwyn Samuel yn rhan o Ganolfan Hamdden Llanelli

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda y bydd dau ysbyty maes yn y de-orllewin yn dechrau derbyn cleifion ganol y mis er mwyn lleihau'r pwysau ar ysbytai acíwt.

Bydd 30 o welyau yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli ac Ysbyty Enfys Carreg Las yn Sir Benfro ar gyfer cleifion sydd angen gofal llai dwys ac ddim yn gleifion Covid.

Dywedodd llefarydd y bydd hyn yn caniatáu i'r bwrdd iechyd "reoli cleifion a llif yn ein ysbytai acíwt yn well".

Bydd y cleifion yn cael gofal gan dîm amlbroffesiynol profiadol gan gynnwys nyrsys, therapyddion a swyddogion cyswllt cleifion.

Maen nhw wedi cael eu hasesu fel rhai nad sydd angen unrhyw fewnbwn meddygol, ond yn dal i fod angen rhywfaint o ofal cyn cael eu rhyddhau gartref neu i gyfleuster gofal yn y gymuned.

Dywedodd Dr Meinir Jones, arweinydd clinigol yr ysbytai maes a thrawsnewid: "Bydd agor y ddau ysbyty hyn yn rhyddhau rhywfaint o gapasiti yn ein safleoedd acíwt ac yn cefnogi adfer gweithdrefnau brys sydd wedi'u cynllunio.

"Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae gohirio wedi'i chael ar gleifion ac ansawdd eu bywyd."

Dywedodd Andrew Carruthers, cyfarwyddwr gweithrediadau Hywel Dda: "Yn anffodus nid yw Covid yn mynd i ddiflannu, ac felly mae angen i ni seilio ein cynlluniau nid yn unig ar sut rydym yn rheoli cleifion Covid, ond hefyd ar sut y gallwn ailgychwyn gwasanaethau eraill a darparu parhad gofal ar draws y system."