Nifer cleifion Covid-19 mewn ysbytai wedi cynyddu

  • Cyhoeddwyd
HaintFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y cleifion mewn ysbytai gyda coronafeirws yng Nghymru wedi cynyddu eto - gyda chynnydd o bron i chwarter ers yr wythnos diwethaf.

Mae'r ffigurau diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dangos bod 1,110 o gleifion Covid-19 mewn gwelyau ysbyty, sy'n fwy nag 80% o'r lefel ar uchafbwynt y pandemig ym mis Ebrill.

Mae gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg bron i 100 yn fwy o gleifion yn ei ysbytai o'i gymharu â'r wythnos ddiwethaf.

Bu cynnydd mewn ardaloedd eraill hefyd, gyda'r niferoedd yn dyblu yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, oedd gyda dim ond ond 33 o gleifion Covid wythnos yn ôl.

Mae'r ffigurau'n dangos bod 655 o'r 1,110 o gleifion mewn ysbytai wedi'u cadarnhau'n gleifion Covid-19 - y ffigwr uchaf ers mis Mai.

Roedd 252 o'r cyfanswm yn gleifion lle'r oedd amheuaeth fod Covid-19 yn bresennol, a 203 claf allan o'r 1,110 yn gwella o'r feirws.

Mae gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan 41 o gleifion ychwanegol mewn gwelyau o gymharu gydag wythnos yn ôl, ac mae nifer y cleifion coronafeirws wedi cynyddu 30% yn ardal Caerdydd a'r Fro.

Fe fu gostyngiad yn y niferoedd yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae Cwm Taf Morgannwg wedi nodi 366 o achosion sy'n gysylltiedig a'r haint yn ei ysbytai.

Dywedodd arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf Andrew Morgan fod 20 o gleifion Covid ar beiriannau anadlu neu mewn gofal critigol ddydd Mercher.

"Mae'r niferoedd yn ein hardal yn eithaf llwm o ran nifer y bobl mewn gwelyau Covid," meddai wrth BBC Radio Wales.

Ychwanegodd cyfarwyddwr Cydffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes: "Yr hyn rydyn ni'n ei weld yw ysbytai maes oedd yn rhan o'r cynllunio wrth gefn ar gyfer delio ag effeithiau Covid bellach yn dechrau cael eu defnyddio - yn enwedig yn ardal Rhondda Cynon Taf, ond hefyd mewn ardaloedd eraill o Gymru."

Yn y cyfamser, dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon fod cleifion oedd wedi gwella yn aros yn hirach na'r angen mewn ysbytai, gan lenwi gwelyau prin.

Ledled Cymru, roedd cyfanswm o 45 o bobl yn derbyn triniaeth ar welyau ymledol gyda pheiriannau anadlu, gan gynnwys gofal critigol, am effeithiau coronafeirws ar 27 Hydref - dau yn fwy na'r wythnos flaenorol.

Cleifion Covid-19 yn yr ysbyty fesul diwrnod yng Nghymru. .  Pob achos: Cleifion Covid-19 wedi'u cadarnhau a'u hamau, ac sy'n gwella.

Mae'n debyg fod meddygon yn ceisio trin y cleifion mwyaf difrifol heb eu rhoi ar beiriannau anadlu erbyn yn, o gymharu gyda'r hyn oedd yn digwydd yn ystod y don gyntaf.

Mae'r cyfartaledd saith diwrnod yn nifer derbyniadau dyddiol i ysbytai o achos Covid-19 ble mae amheuaeth neu gadarnhad o'r haint yn parhau i gynyddu - sef 98 o achosion.

Dywedodd Chris Williams, cyfarwyddwr digwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mercher: "Mae niferoedd cynyddol o achosion yn debygol o arwain at fwy o bobl mewn ysbytai ac, yn anffodus, at gynnydd yn y marwolaethau Covid-19."

Mae 1,065 claf Covid-19 mewn gwelyau acíwt neu gyffredinol - sef y nifer uchaf ers diwedd mis Ebrill.

Mae'r ffigurau diweddaraf gan adran wybodaeth GIG Cymru yn dangos bod tair gwaith cymaint o gleifion mewn gofal critigol o achos cyflyrau eraill.

Erbyn hyn mae nifer y cleifion tu hwnt i'r capasiti arferol ar gyfer gofal critigol.