Cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ymweld ag Eryri

  • Cyhoeddwyd
CeirFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ymwelwyr dyrru i Ben-y-Pass yn Eryri ar ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth eleni

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi datgelu cynlluniau uchelgeisiol i geisio lleddfu problemau parcio'r ardal - ac wedi edrych at wledydd fel Awstria am syniadau.

Mae Eryri yn un o berlau Cymru ond mae pris i'r prydferthwch, a hwnnw'n bris drud ar gyfnodau prysur.

Ym Mhen-y-Pass roedd y sefyllfa ar ei gwaethaf yn ystod yr haf, gyda channoedd o gerbydau yn parcio yn anghyfreithlon wrth i bobl heidio i'r mynyddoedd ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben.

Fe danlinellodd yr angen am well isadeiledd a chynlluniau mwy cynaliadwy i groesawu ymwelwyr i Eryri.

Ond gydag ond rhyw 80 o safleoedd parcio yno, mae'n gallu llenwi'n sydyn iawn.

Er bod gwasanaethau bws fel Sherpa'r Wyddfa i gludo pobl o gwmpas yr ardal, mae'r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dal i ddod yn eu ceir.

Annog llai o hynny ydy'r nod, ac ymestyn cynllun peilot ddiwedd yr ha' lle'r oedd pobl yn archebu lle parcio o flaen llaw.

Disgrifiad o’r llun,

Angela Jones (chwith) a Catrin Glyn - dwy sydd wedi bod yn edrych ar ffyrdd o liniaru effeithiau problemau'r ardal

Dywedodd Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau'r Parc Cenedlaethol: "Be' 'da ni'n gobeithio gwneud ydy hybu mannau porth ar gyrion yr ardal fewnol, lle fydd pobl yn cyrraedd efo trafnidiaeth gyhoeddus neu geir, a pharcio mewn llefydd strategol ar gyfer parcio a theithio.

"Ond wedyn fydd 'na wasanaeth o fysus gwennol di-garbon ac hefyd o safon uchel iawn."

Mae rhai wedi galw am gyflwyno treth ymwelwyr fel bod cyfraniad at gostau cynnal a chadw'r ardal.

Yn ôl Angela Jones, mae'r Awdurdod wedi bod yn ystyried gwahanol opsiynau, gan gynnwys tocyn teithio i ymwelwyr.

"Mi fydd pobl sy'n teithio mewn i'r ardal yn prynu y tocyn yma, beth bynnag ydi o, i deithio o gwmpas yr ardal. Felly fe fydd 'na fuddsoddiad gan yr ymwelwyr i'r isadeiledd a sut 'da ni'n edrych ar ôl yr ardal.

"'Da ni angen buddsoddiad enfawr yn amlwg. Mae'n golygu newid isadeiledd mewn lle gwledig ac mewn lle sydd angen cael y buddsoddiad hwnnw hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Pryderi ap Rhisiart o Barc Gwyddoniaeth MSparc yng Ngaerwen ar Ynys Môn

Fe fydd gan dechnoleg rôl allweddol yn y cynlluniau, ac mae Parc Gwyddoniaeth MSparc yng Ngaerwen ar Ynys Môn wedi bod yn edrych ar greu math o basport i ymwelwyr, fel y sonia Pryderi ap Rhisiart o'r parc:

"Ap ydy o sy'n byw yn dy law di. Os ti'n ymweld ag Eryri, ti'n lawrlwytho'r ap a chael mynediad at bob math o wybodaeth.

"Gwybodaeth am lle sy'n brysur o ran y meysydd parcio, gwybodaeth bwysicach byth am drafnidiaeth cynaliadwy - lle fedrwch chi ddal y bws a faint o'r gloch ac ati.

"Ond hefyd mi fydd yn ychwanegu gwerth at brofiad yr ymwelwyr drwy ddweud am bethau difyr i'w gweld yn yr ardal, dehongli hanes a threftadaeth. Hyd yn oed rhywfaint ar yr iaith Gymraeg a sut i ddweud pethau yn Gymraeg."

Edrych tua'r Alpau

Mae swyddogion wedi bod yn edrych ar fodel twristiaeth cynaliadwy yn yr Alpau yn Awstria. Yn ôl Catrin Glyn, Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa, mae 'na lawer o wersi y gallai Eryri'u dysgu o gynllun Alpine Pearls.

"Roedd un o'r tîm ymgynghori wedi bod yn gweithio efo prosiect tebyg yn Awstria, mewn cymuned Alpaidd," meddai.

"Be oedd yn ddiddorol am gynllun Alpine Pearls oedd ei fod o wedi denu mwy o bobl ifanc yn ôl i'r ardal oherwydd y cyfleoedd am gyflogaeth ac entrepeneuriaeth. Roedd o'n bositif iawn."

Ffynhonnell y llun, Gary Maslin
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar gopa'r Wyddfa yn gynharach eleni

Cynllun pedair blynedd fydd o yn y tymor byr, ond mae disgwyl i'r holl weledigaeth gymryd 10 mlynedd i'w roi yn ei le.

Bydd y cynigion yn gorfod cael sêl bendith cynghorau Gwynedd a Chonwy yn ogystal ag Awdurdod y Parc.

Bydd hefyd cyfle i gymunedau leisio eu barn mewn cyfres o weithdai lleol dros yr wythnosau nesaf.

Y gobaith ydy cyflwyno rhai o'r syniadau erbyn gwanwyn 2021 er mwyn ceisio osgoi ailadrodd rhai o olygfeydd eleni.