Cynlluniau i weddnewid systemau parcio yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Llyn IdwalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awdurdod yn gobeithio datblygu model o "dwristiaeth gynaliadwy"

Mae cynlluniau newydd ar y gweill i weddnewid y system barcio i ymwelwyr yn Eryri.

Mae swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi amlinellu bwriad i sefydlu cynllun gyda thocynnau i ffrwyno anhrefn parcio.

O dan y cynlluniau, byddai lleoliadau parcio a theithio mwy, bysiau "di-garbon" a chysylltiadau trafnidiaeth integredig ar gyfer ymwelwyr trwy docynnau amser-benodol.

Byddai ardaloedd parcio o amgylch Yr Wyddfa yn cael eu "dileu fwy neu lai", clywodd cyfarfod o bwyllgor craffu economi Cyngor Sir Conwy yr wythnos hon.

Cynghorau Conwy a Gwynedd sy'n gyfrifol am blismona'r ardal ar hyn o bryd, ond fe all cyfyngiadau llymach gael eu plismona gan gorff newydd o dan y cynlluniau.

Ddiwedd mis Mawrth, yn dilyn niferoedd digynsail o ymwelwyr, bu'n rhaid cau mynyddoedd prysuraf Eryri gyda chymorth deddfwriaeth frys Llywodraeth Cymru.

'Denu pobl ifanc yn ôl'

Mae system Alpaidd Awstria wedi dylanwadu ar y syniad lle mae llety, trafnidiaeth a mynediad i'r mynyddoedd wedi'u canoli ar hybiau.

Y gobaith - trwy gael profiad ymwelwyr mwy strwythuredig - ydy gallu denu pobl ifanc sy'n gadael yr ardal yn ôl gyda swyddi a chyfleoedd busnes.

Dywedodd rheolwr partneriaethau'r parc cenedlaethol, Angela Jones: "Un o agweddau mwyaf trawiadol y prosiect hwn i ni oedd ei fod wedi denu preswylwyr ifanc yn ôl i'r ardal oherwydd y potensial ar gyfer entrepreneuriaeth."

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Parcio ar ffordd yn arwain at westy Pen y Gwryd a Phen-y-Pass ym mis Mawrth eleni

Mae awdurdod y parc eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a bydd angen rhywfaint o fuddsoddiad ar y dechrau.

Ond dywedodd Ms Jones fod yr awdurdod wedi cynnig "cynlluniau sy'n eithaf cynaliadwy os gallwn gael incwm gan ymwelwyr rywsut".

Byddan nhw'n cynnal gweithdai gyda chymunedau lleol tua diwedd y flwyddyn, meddai.

Er gwaethaf y golygfeydd o brysurdeb ac o barcio anghyfreithlon yn Eryri eleni, dywedodd swyddog partneriaeth yr awdurdod eu bod wedi bod yn gweithio ar y cynlluniau ers 2018.

Ychwanegodd Catrin Glyn: "Mae'n brosiect cyffrous sy'n ymestyn y tu hwnt i ffiniau'r parc.

"Rhaid i ni fod yn llawer mwy radical yn yr ardal i newid pethau. Ers i'r cyfyngiadau gael eu lleddfu 'da ni wir wedi gweld gwahaniaeth [yn ymddygiad ymwelwyr]."

Dywedodd fod ceir sy'n ymweld â'r ardal ar yr adegau prysuraf "yn fwy na faint o barcio sydd ar gael" sy'n cael "effaith enfawr ar gymunedau, yr amgylchedd a phrofiad yr ymwelydd".