Arbrawf archebu tocyn ar gyfer maes parcio ger Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i yrwyr archebu tocyn o flaen llaw cyn cael defnyddio'r maes parcio agosaf at gopa'r Wyddfa ar benwythnosau a'r gŵyl banc weddill haf eleni.
Mae'r maes wedi bod ar gau ar benwythnosau ers canol Gorffennaf i osgoi'r trafferthion a gododd wrth i ymwelwyr ddychwelyd yn eu miloedd i Eryri wedi i'r cyfyngiadau coronafeirws ddechrau llacio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru nawr wedi adolygu'r mesurau brys a ddaeth i rym bryd hynny, gan gyhoeddi "gwelliannau pellach" i'r trefniadau parcio.
Mae'r gwasanaeth rhagarchebu'n dod i rym ar-lein am 00:00 nos Fercher ac mae yna rybudd bod "disgwyl i'r llefydd parcio werthu yn eithriadol o sydyn".
Wrth gyrraedd Pen-y-Pass fydd yn rhaid i yrwyr ddangos ebost yn profi eu bod wedi archebu tocyn o flaen llaw trwy wefan y Parc Cenedlaethol cyn cael mynediad i'r maes parcio.
Bydd angen i bawb arall ddefnyddio'r gwasanaeth Parcio a Theithio i Ben-y-Pass o Nant Peris a Llanberis.
Dywed llefarydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod y "peilot tymor byr... yn cael ei weithredu fel ffordd o asesu modelau rheoli newydd sy'n cyd-fynd â chynlluniau hir dymor o ddatblygu system parcio a thrafnidiaeth arloesol yn ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen".
Bydd canlyniadau'r adolygiad hwnnw cael eu cyflwyno i'r partneriaid ym mis Medi.
Ar sail casgliadau ymgynghoriad â chymunedau a phartneriaid ac asesiad o'r data, dywedodd llefarydd bod yna fomentwm ac awydd amlwg "i ddatblygu cynnig Twristiaeth Gynaliadwy integredig".
Mae'r argymhellion felly, meddai, "yn cynnwys atebion pellgyrhaeddol, cyfannol a chynaliadwy gan ddefnyddio model ar ffurf arddull Alpaidd, a allai drawsnewid ein hymagwedd tuag at deithio yn y rhanbarth".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020