Tro pedol: Ysgol oedd dan fygythiad bellach yn ddiogel

  • Cyhoeddwyd
Ysgol BodfforddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 80 o blant ar gofrestr Ysgol Bodffordd

Mae'n ymddangos fod ysgol ar Ynys Môn oedd dan fygythiad o gau bellach yn ddiogel.

Roedd cynghorwyr yr ynys wedi pleidleisio mewn egwyddor i gau Ysgol Bodffordd, er gwaetha protestiadau gan rieni a thrigolion lleol.

Derbyniodd y cyngor dros 100 o lythyrau yn gwrthwynebu.

Y bwriad oedd gyrru'r disgyblion i ysgol newydd yn Llangefni, fyddai hefyd yn cynnwys plant Ysgol Corn Hir yn y dref.

Rŵan, fel rhan o gynllun gwerth £16m, mae swyddogion wedi argymell bwrw mlaen i adeiladu'r ysgol newydd i blant Corn Hir yn unig, gan adael Bodffordd fel y mae.

Ond mae dyfodol Ysgol Talwrn yn parhau i fod dan fygythiad. Syniad y cyngor ydy ei chau, gan greu lle ychwanegol i'r disgyblion yn Ysgol y Graig yn Llangefni.

'Adeiladau i'r 21ain ganrif'

Eglurodd y deilydd Portffolio Addysg, y Cynghorydd Meirion Jones: "Rydym eisiau buddsoddi yn nyfodol plant a phobl ifanc Ynys Môn.

"Fel rhan o'r rhaglen hon, rhaid i ni sicrhau bod plant yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau sy'n addas ar gyfer y 21ain Ganrif, adeiladau sydd yn y lle iawn, sy'n bodloni anghenion disgyblion a staff, sy'n helpu i hyrwyddo safonau uchel ac sy'n amddiffyn yr iaith Gymraeg."

Dywedodd is-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Bodffordd, Dylan Rees, y byddai croeso i'r penderfyniad yn y pentref.

"Pan ddechreuodd yr ymgynghoriad roedd rhai'n dweud fod y broses yn 'sham' gan fod popeth wedi ei benderfynu'n barod.

"Mae'n amlwg fod swyddogion y cyngor wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed, ac o ganlyniad maen nhw wedi newid eu hargymhellion, ac maent i'w canmol am hynny."

Dywedodd Mr Rees, sydd hefyd yn aelod o Gyngor Môn, ei fod wastad wedi cefnogi adeiladu ysgol newydd i Ysgol Corn Hir, "ond nid ar draul cau yr ysgol bentref ffyniannus sydd ym Modffordd," meddai.

Bydd yr argymhellion yn cael eu trafod gan gynghorwyr yn ystod yr wythnosau nesaf.